Stryd o safon


Fe ges i brofiad go anghyffredin yn ddiweddar. Crïo wrth wylio drama deledu. Ac nid rhyw hen grio gwirion dros gynhebrwng neu briodas opera sebon chwaith - dyw hynny heb ddigwydd ers i un o efeilliaid bach Denzil ag Eileen farw yn Pobol y Cwm flynyddoedd mawr yn ôl. Yn hytrach, dagrau a lwmp nes bron â thagu yn y gwddw. Felly’r oedd hi wrth wylio’r olaf o un o gyfresi gorau’r iaith fain ers sbel - The Street, gan Jimmy McGovern.

Rhes o dai teras dosbarth gweithiol ym Manceinion yw canolbwynt y gyfres, gyda phob pennod yn mynd a ni dros riniog gwahanol. Wythnos diwethaf, cawsom stori Eddie McEvoy (Timothy Spall) a’i wraig Margie (Ger Ryan, sy’n haeddu gwobr BAFTA flwyddyn nesaf), yr unig brif gymeriadau i ymddangos ym mhob un o’r tair cyfres. Mae Eddie yn flin fod ei wraig wedi’i adael dros dro i warchod ei thad sarrug sydd newydd gael strôc. Yn ei unigrwydd, mae’n meithrin perthynas â chydweithiwr yn y lle tacsis, Sandra (Ruth Jones, Gavin and Stacey), enaid unig arall sy’n ysu am gwmni a chysur dyn. Ac fel creadur clên sy’n casáu siomi pobl, mae Eddie yn cael mwy na thamaid o swper yn nhŷ Sandra un noson - wrth i’w wraig ddychwelyd adref. A’i euogrwydd yn ei fwyta’n fyw, mae Eddie’n penderfynu cyfadde’r cwbl wrth ei Margie dros gyrri - sy’n sbarduno pwl drwg o asthma, a pheri iddi fygu i farwolaeth yn nhoiledau’r bwyty. Mae’r olygfa gloi yn ddirdynnol o drist wrth i Eddie sefyll yn y pulpud i ffarwelio â’i wraig am y tro olaf ac ymddiheuro’n gyhoeddus i’w blant am odinebu.

Doedd pob pennod ddim yn taro deuddeg chwaith. Roedd stori’r tafarnwr (Bob Hoskins) sy’n herio bwli lleol tu hwnt i bob disgwyl, a stori’r fam sengl (Anna Friel) sy’n troi at buteindra er mwyn talu am addysg well i’w meibion, a llwyddo maes o law, braidd fel straeon tylwyth teg modern. Ac roedd ambell feirniaid o’r farn nad oedd hon fawr amgenach na Coronation Street neu Shameless heb hiwmor.

Ond waeth inni heb a chwyno pan fydd hi wedi diflannu o’n sgriniau am byth. Mae’n debyg fod Jimmy McGovern am roi’r gorau iddi, wedi i’r cwmni cynhyrchu, ITV Studios (Granada gynt) roi cymaint o weithwyr dawnus ar y clwt. Dyma gampwaith o sgwennu, actio a chyfarwyddo celfydd, lle’r oedd stumiau a seibiau yn dweud llawer mwy na deialog hirwyntog diangen.


Bydd chwith garw ar ei hôl.