Iechyd da

Mae’n affwysol o anodd cadw’n heini yn ein hoes eisteddog ni. Mae’r prydau popdy ping mor beryglus o gyfleus ar ôl diwrnod hir o waith, a’r car yn llawer brafiach na cherdded ar noson wlyb a thywyll i’r siop gornel. A hyd yn oed pan fo rhywun yn chwysu chwartiau i losgi’r bloneg, mae yna demtasiwn o bob cwr. Mae arogleuon a goleuadau neon tri bwyty sothach yn sgrechian am fy sylw wrth i mi adael y gampfa leol. Damia nhw. A rhwng lefelau gordewdra, smygu a merched beichiog yn eu harddegau, 'da ni’r Cymry’n bencampwyr byd! Yn ôl adroddiad diweddar ar lefelau gordewdra’r DU, mae 4 o’r 5 ardal waethaf yn hen gymoedd difreintiedig y de. Beth yw’r ateb felly? Strategaeth iechyd genedlaethol hirwyntog arall gan ein Gweinidog Iechyd sy'n ddynes ddigon nobl ei hun a dweud y lleiaf? Naci siŵr iawn. Yr ateb ydi IOLO WILLIAMS, gwaredwr popeth iach ac ecogyfeillgar ar S4C. Y tro hwn, mae’r cyflwynydd brwdfrydig o Faldwyn yn ceisio annog tri theulu i newid eu ffyrdd afiach o fyw yn Cwm Sâl Cwm Iach (Green Bay).

Bob wythnos, mae’r criw o Dreorci, Glyn-nedd a Phen-y-graig yn cyflawni tasgau gwahanol i ennill gwobrau. Ac er gwaetha’r hysbyseb amlwg i’r Asiantaeth Safonau Bwyd, a sgript slafaidd o’r Saesneg (“dal un o’r teuluoedd allan”), mae digonedd o hwyl i’w gael. Her yr wythnos hon yw coginio fersiynau iachach o hoff brydau’r tri theulu - cibabs a korma cyw iâr - gyda chymorth Alun Williams a’r cogydd Anthony Stwffio Evans, cyn gorffen gyda ras droli bwydydd iach mewn archfarchnad leol. Buasai’n well gen i gael mwy o hanes y teuluoedd eu hunain, gan fod y plant yn ddigon o gymeriadau i gynnal rhaglen gyfan heb help Iolo Williams. Mwy o’r cyfranwyr a llai o’r cyflwynydd, felly, yn enwedig golygfeydd dibwys braidd ohono’n dysgu syrffio ym Mae Abertawe. Unrhyw esgus i’w roi mewn siwt nofio ar gyfer y lêdis ac ambell fachan.

Draw ar y BBC, mae cyfres ddrama newydd wedi’i gosod mewn ysbyty - eto fyth! Yr unig wahaniaeth yw bod Crash (8.30 nos Fercher) yn gynnyrch BBC Wales, ac yn dilyn meddygon newydd raddedig â phwysau’r NHS ar eu ’sgwyddau ifanc. Gyda chymysgedd o wynebau newydd a’r hen stejars profiadol fel Nia Roberts a Mark Lewis Jones (fel y diawl drwg arferol sy'n hel merched), mae’n llifo’n dda ac yn edrych yn dda. Dim byd syfrdanol o wych, ond iawn i ladd amser am hanner awr facb bob wythnos. Ond pam, o pam, cael gwared ar un o’r cymeriadau gorau ar ddiwedd y bennod waedlyd gyntaf?

Crash and burn? Cath (Kezia Burrows), Ameer (Simon Rivers), Rhian (Elin Philips), y diweddar Rob (Gareth Pam fi Duw? Jewell) a Simon (Gareth Caerdydd Milton).