On'd oedden nhw'n ddyddie da?


Mae ’na berl o ffilm gartref o’r pumdegau yn ein teulu ni. Ffilm o mam a’i chwiorydd yng ngharnifal Bryn Pydew ger Llandudno. Ynddi, mae’r haul yn tywynnu fel hafau hirfelyn tesog ers talwm, a genod Ty’n y Bryn yn cadw reiat yn eu ffrogiau tywysogesau bach. Byddai’n destun perffaith i brosiect diweddara’r bardd a’r cyflwynydd Ifor ap Glyn, Popeth ar Ffilm (Cwmni Da) i ddangos y newid a fu - o bentref gwledig a Chymraeg i gynefin cymudwyr Swydd Gaer a phobl ddŵad y Costa Geriatrica.

Mae’n syniad diddorol, gydag Ifor ap Glyn yn dangos ffilm archif o ardal arbennig bob wythnos, ac yn mynd ati i greu ffilm fer newydd gyda chenhedlaeth newydd. A does dim prinder deunyddiau, gyda rhyw 10,000 o dapiau dan ofal Archif Ffilm a Sain Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Ardal wledig Ceredigion, oedd dan sylw’r rhaglen gyntaf, a ffilm o’r Farmers’ Education Centre, Felinfach yn y 1950au. Ffilm hynod odidog ac anwleidyddol gywir lle’r oedd bechgyn siwtiog yn trwsio Fordsons a Ffyrgis Bach a’r merched ifanc yn pobi am y gorau yng ngheginau’r coleg. Roedd yr hen genhedlaeth yn gwenu’n hiraethus braf o weld y ffilm heddiw, a chriw’r Clwb Ffermwyr Ifanc yn chwerthin am ben swyddogaethau hen ffasiwn yr oes ddu a gwyn. Felly, dyma benderfynu fynd ati i wyrdroi’r ddelwedd yn llwyr a dangos cefn gwlad 2009 – gydag Eifiona Davies yn frwd dros y diwydiant, ac yn helpu i odro’r da a bwydo’r moch ar y fferm deuluol, ac Emyr Evans yn actor sebon rhan-amser. Bechod mai dim ond cipolwg yn unig a gawsom o’r bwrlwm diwylliannol hyn, o griw opera sebon ‘Bontlwyd’ ar Radio Ceredigion i gystadleuaeth panto’r Ffermwyr Ifanc. A bechod na welsom fwy o’r ffilm orffenedig – holl bwrpas y rhaglen am wn i.

Mae rhaglenni’r dyfodol yn swnio’n tipyn fwy addawol - yn enwedig ffilm o ardal Senghennydd, Caerffili, sy’n adrodd hanes adfywiad a gobaith newydd i’r Gymraeg ar ôl colli tir a chymaint o fywydau yn nhrychineb glofaol 1913.

Gyda llaw, fe allai Ifor ap Glyn atgyfodi Popeth yn Gymraeg eto, a chanolbwyntio ar Lord Dafydd Êl a Chomisiwn y Cynulliad Mici Mows felltith sy'n mynnu eu bod uwchlaw deddf iaith y wlad...

Ond mae peryg fod S4C yn ymddiddori gormod yn yr archifau, wrth ddarlledu’r Awr Aur bob noson o’r wythnos rhwng 6 a 7pm? Yn ôl y broliant i’r wasg, mae’n cynnig cyfle inni “fwynhau detholiad o glasuron o archif gyfoethog S4C”. Neu ‘Awr Ailddarlledu Rhad’ i chi a fi. Beth fydd hi felly, wylwyr? Lucy Owen yn hel straeon heddiw ar Wales Today, neu Lyn Ebenezer yn Hel Straeon tua 1986?