Myrddin a mwy


Actorion o bob lliw a llun - ond ddim Cymry - yn fersiwn y Bib o chwedl Myrddin



Dros y penwythnos, rhois gynnig ar ddwy gyfres boblogaidd am y tro cyntaf erioed. Wrth ddiogi ar y soffa nos Sadwrn, dyma droi i wylio cyfres ddrama deuluol Merlin ar BBC1. Sut ar y ddaear fethais i hon o stabl BBC Cymru cyn hyn? Er, fuasech chi fawr callach chwaith. Brodor o Ard Mhacha (Armagh) Gogledd Iwerddon sy’n chwarae rhan y Myrddin ifanc, actor o Ddyfnaint yw’r Brenin Arthur, a merch groenddu o Lundain yw Gwenhwyfar (neu Gwen/Guinevere y gyfres). Enghraifft arall o bolisi BBC PC. O leiaf mae rhyw fath o stamp Cymreig i’r ochr gynhyrchu, gyda’r golygfeydd mewnol wedi’u ffilmio mewn stiwdio yng Nghaerdydd a’r rhai allanol yng nghestyll Rhaglan a Chaerffili a Bae Dwnrhefn, Bro Morgannwg ymhlith eraill - ond sdim son am Gaerfyrddin! A Château de Pierrefonds, i’r gogledd o Baris yw Camelot y gyfres. Buasai Sieffre o Fynwy druan wedi troi yn ei fedd…

Ond waeth inni heb a hollti blew. Mae disgwyl i hon fod yn gronicl ffyddlon o’r Chwedl Arthuraidd fel disgwyl i’r gyfres Eingl-Americannaidd The Tudors fod yn bortread triw o Brenin Harri’r Wythfed, neu fod Teulu yn adlewyrchiad teg o drigolion tinboeth Aberaeron. Adloniant pur a dihangfa lwyr ydyn nhw wedi’r cyfan - dros ben llestri ar brydiau - ond dihangfa braf rhag hen fyd cas y dirwasgiad.

Ralïo+ (P.O.P.1) yw’r gyfres arall sydd wedi denu sylw o’r newydd, gydag Emyr Penlan a Lowri Morgan wrth y llyw (bwm! bwm!). Diolch i gyhoeddwr S4C, deallais mai ‘Ralïo a mwy’ yw’r enw cywir arni, nid ‘plws’ neu ‘ychwanegol’ fel y tybiais yn wreiddiol. Mae bathwyr teitlau rhaglenni lot rhy glyfar i mi! Cefais flas ar hon hefyd, yn groes i’r disgwyl. Doedd gen i fawr o amynedd gwylio buddugoliaeth ddiweddaraf Lewis Hamilton o dan lifoleuadau Singapore (hanner dwsin o lapiau, digon teg, ond 61?!), ond mae rhaglen gylchgrawn hanner awr yn fy siwtio i’r dim. Wythnos diwethaf, cafwyd uchafbwyntiau gŵyl ralïo Castle Combe gyda’r hen stejar Gwyndaf Evans o Ddolgellau, Her Rali Rhyng-gyfandirol o Sbaen, ac ymgais Hywel Lloyd o Gorwen yn ras Fformiwla 3 ar drac chwedlonol Brands Hatch. Dim lolian à la Jeremy Clarkson, dim ond digon o gyffro a dau gyflwynydd sy’n ymddangos yn wirioneddol frwd dros y gamp. Yn ogystal a chael ei galw “rhaglen rali orau’r ddaear” gan gylchgrawn Motorsports News, dyma o lwyddiannau mawr S4C dros yr haf, a lwyddodd i ddenu 70% yn fwy o wylwyr na’r llynedd. Tipyn o gamp.