Pererin Wyf

Dw i’n dal i gofio’r daith hyd heddiw. Ymweliad aelodau Capel Carmel i gartref enedigol William Morgan, cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg, rhyw bnawn Sul braf yn nyddiau f’arddegau cynnar. Ac fel fy atgofion hapus i o Dŷ Mawr Wybrnant, rwy’n siŵr y bydd plant ysgolion Sul Bro Dysynni yn cofio’u taith arbennig nhw mewn blynyddoedd i ddod hefyd.
Mewn rhaglen gyntaf o gyfres newydd sbon nos Sul, Y Daith, cawsom hanes Mari Jones, merch 16 oed o Lanfihangel y Pennant a gerddodd yn droednoeth am 25 milltir i brynu beibl o’r Bala. 250 o flynyddoedd yn ddiweddarach, daeth criw o 28 ynghyd yn eu crysau pêl-droed, eu capiau pêl-fas a’u ffyn bugail i wneud y siwrnai dros ddeuddydd bendigedig o braf. Yn wahanol i Mari Jones, cawsant bas mewn bws mini (er mwyn osgoi tagfeydd yr A470 nid osgoi pothelli’r traed, chwarae teg) ac ar drên bach Llyn Tegid i gyrraedd pen y daith. Ond o leiaf fe ddaeth yr hanes yn fwy byw fel hyn yn hytrach na mewn hen festri lychlyd. Ac roedd y gwaith camera’n hysbyseb perffaith i’r Bwrdd Croeso wrth inni gamu dros gamfeydd a nentydd yn erwau gleision Meirionnydd. Ond rhaid gadael Cymru i gael stori tipyn mwy diddorol nos Sul nesaf, fel hanes teulu ifanc o Gaerdydd sy’n llwyddo i gyfuno’r fydd Gristnogol a Sikhaidd yn ‘O Gapel Salem i’r Deml Aur’. Nid rhywbeth i gynulleidfa draddodiadol Dechrau Canu Dechrau Canmol yn unig mo hon. Mae’n gyfuniad celfydd o raglen deithio ddogfennol sy’n ceisio canfod ystyr crefydd yn ein hoes seciwlar ni.

Bu cryn dipyn o ffỳs a ffwdan yn y wasg Seisnig yn sgil ymddangosiad ‘arbennig’ Boris Johnson, Maer Llundain ar Eastenders yr wythnos ddiwethaf. Y beirniad mwyaf oedd Ken Livingstone, a gyhuddodd y BBC o ddangos ei lliwiau gwleidyddol wrth wahodd y Ceidwadwr i’r Queen Vic. Ie, Ken y cyn-Faer a gad ei wrthod gan y gyfres yn y gorffennol yn ôl pob tebyg. Grawnwin surion, tybed? ’Sgwn i a fydd Pobol y Cwm, sy’n 35 oed yr hydref hwn, yn croesawu Aelod Cynulliad i’w plith? Wedi’r cwbl, mae’n draddodiad bellach cael gwestai arbennig ar ben-blwyddi arbennig y gyfres. Beth am weld Rhodri’n picied i’r Deri am beint yn ystod taith ffarwél â’i bobl cyn ymddeol, neu Siôn White yn mynd ben-ben â Dafydd Êl am bolisi iaith ciami’r Cynulliad…?