Pobl Môn oedd piau hi ar S4C dros y Sul. O fan’no y daeth y bytholwyrdd Noson Lawen nos Sadwrn, cyfres sydd wedi’i hailwampio’n amlach na chanol dinas Caerdydd ar hyd y blynyddoedd. Dim mwy o eistedd ar fêls gwellt mewn hen sgubor oer, na chyflwynwyr trigain oed yn rhaffu ‘jôcs’ o’r llwyfan llychlyd. Bellach, genod ifanc del fel Mari Løvgreen a Nia Parry sy’n cyflwyno’r sioe West End-aidd o stiwdios sgleiniog a modern, er budd rheolau iechyd a diogelwch a delwedd ‘cŵl’ y Sianel. Cafwyd rhaglen amrywiol o’r fam ynys, gyda pherfformiadau caboledig gan gantorion pop, perfformiwr seiloffon(!), Côr Aelwyd yr Ynys… a Ffarmwr Ffowc. Ydy, mae’r hen foi’n dal wrthi er gwaethaf ymdrechion Eilir Jones druan i roi’r cap stabl yn y to. Roedd y diweddglo’n ddarn o gomedi pur, gydag Elin Fflur a Daniel ‘Heb Mr Pinc’ Lloyd yn ymddangos mor hapus â Joe Calzaghe mewn trowsus secwin yn Strictly Come Dancing, wrth ganu lleisiau cefndir i ryw brimadonna deng mlwydd oed.
Nos Sul, cawsom chwip o stori am longddrylliad y Royal Charter a ddigwyddodd 150 o flynyddoedd union yn ôl i’r mis hwn. Roedd yn hanes gwbl ddieithr i mi, ond yn un tra chyfarwydd a phersonol iawn i’r cyflwynydd Bedwyr Rees, gyda’i hen hen daid, William Jones, yn dyst 12 oed i’r drychineb. Hon oedd Titanic Cymru, llong ysblennydd a moethus a oedd yn arwydd o hyder a dyfeisgarwch Oes Fictoria, ond a chwalodd yn erbyn creigiau Moelfre mewn storm enbyd, gan ladd 450 o’r teithwyr. Mae’n stori llawn paradocsau creulon. Un o’r morwyr oedd Isaac Lewis, hogyn lleol a welodd ei dad ar y lan cyfagos, cyn diflannu o dan y don am byth. Dyma fo, wedi hwylio’n ddiogel am 45 diwrnod o bellafoedd Melbourne (record y cyfnod) cyn marw ar ei stepen drws ei hun. Roedd hanes Yn fuan wedi’r storm farwol, cafodd enw da’r trigolion lleol, dewr, eu pardduo gan bapurau Llundain, a’u cyhuddodd o ysbeilio cyrff y meirwon a wnaeth eu ffortiwn ym meysydd aur Awstralia. Ond cawsant eu canmol i’r carn gan y nofelydd Charles Dickens, a ddaeth yn unswydd i Foelfre i gofnodi dewrder pobl y plwyf a achubodd y rhai oedd ar ôl.

Chwip o stori gan gyflwynydd cadarn ei Gymraeg. Dylai ambell gyflwynydd ifanc – a ddim mor ifanc - S4C a Radio Cymru ddilyn esiampl Bedwyr Rees.