Pam ni, duw?


Enillodd ei blwyf fel ‘arbenigwr’ cyfresi Big Brother ac aelod o dîm swnllyd Chris Moyles bob amser brecwast ar Radio 1. Yn nes adref, mae Aled Haydn Jones yn enwog fel cyn-feirniaid Waw Ffactor a llais Llundain ar raglenni C2 Radio Cymru i bwy bynnag sy’n malio. Mae hefyd yn gyflwynydd rhaglen radio The Sunday Surgery, seiat drafod problemau rhyw a pherthynas, arswyd arholiadau a bwlio i’r to iau. Ac mae hynny’n boenus o addas, fel un â chanddo brofiad personol iawn o’r ochr hyll hwn o fywyd ysgol.

Yn y rhaglen Bullying - Why Me? neithiwr ar BBC2 Wales, dychwelodd Aled i’w hen ysgol uwchradd yn Aberystwyth am y tro cyntaf ers 1992. Cyfaddefodd iddo deimlo’r hen ofn a nerfusrwydd wrth i’r camera ddilyn ei gamre at y giatiau. Dyma lle cafodd ei alw’n ‘swot’, ‘teachers pet’ ac yn ‘bwff’ am flynyddoedd, gan droi’n unig ac ar wahân i weddill y dosbarth. Byrdwn taith bersonol, boenus, Aled oedd canfod atebion i’r cwestiwn ‘pam’? Pam mai fe oedd cocyn hitio’r bwlis? Beth ddylai ef a’r athrawon fod wedi’i wneud i daclo’r broblem? Aeth ati i ysgrifennu blog fel rhan o’i waith ymchwil a holi pobl ifanc eraill a ddioddefodd dan law cachgwn yr iard ysgol. Rhai fel Jacques Alvarez, a gafodd ei labelu’n hoyw gan ei gyd-ddisgyblion pan oedd yn 11 oed, ac a ddioddefodd ymosodiad erchyll gan giang o 35 un diwrnod. Does ryfedd i’w addysg ddioddef, ac iddo chwarae triwant am flynyddoedd wedyn. A’i gyngor trist i unrhyw ddisgybl hoyw arall oedd cadw’i rywioldeb yn dawel tan ar ôl gadael ysgol. Ymateb go wahanol Stephen Sellers oedd troi’r fantol, dysgu crefft ymladd, a dangos ei fod yn well na nhw trwy gael ei benodi’n Brif Fachgen yr ysgol. Yn lle cuddio a chael ei drechu, penderfynodd ddangos ei hunanhyder i’r byd a’r bwlis.

Wn i ddim faint elwach oedd Aled Haydn Jones erbyn y diwedd. Do, fe gafodd ambell gyngor jargonllyd gan ryw ‘arbenigwr ar fwlis’ a sicrwydd gan bennaeth ysgol newydd Penweddig fod ‘polisïau’ pendant i fynd i’r afael â’r broblem bellach. Ond ymchwil unochrog ar y naw ydoedd. Buasai cyfweliad rhwng Aled a chyn-fwli wedi bod yn ffordd ddewr ac effeithiol iawn o gael y maen i’r wal, a chlywed safbwynt y drwgweithredwr. Efallai fod y rhaglen braidd yn debyg i fideo addysgol, a bod stori bwlio Huw White Pobol y Cwm ar hyn o bryd yn ffordd gystal os nad gwell o bortreadu’r broblem.