O'r buarth i'r Bwl


Rydyn ni’n cael ein difetha’n rhacs gan S4C y dyddiau hyn, gyda chyfresi newydd sbon am a welech chi. Roedd yna gryn edrych ymlaen yn nerfus braidd am Fferm Ffactor (Cwmni Da) wedi’r holl hys-bys, ac er gwaetha’r teitl ciami, roedd hon yn amgenach rhaglen na X Ffactor gyda welintyns. Er, roedd ambell steil a syniad wedi’i ddwyn o raglen garioci Simon Cowell hefyd - fel yr olygfa gawslyd braidd o’r beirniaid Dai Llanilar a Wynne Jones yn sefyll yn gadarn â’u breichiau wedi’u plethu yng nghanol niwl dramatig, a’r ‘Cab Cyffesu’ sy’n rhoi cyfle i’r cystadleuwyr ddweud eu dweud wrth y camera.

Mae’r deg sy’n ymgiprys am gerbyd 4x4 i gyd yn dod o ardaloedd y gorllewin - dim ymgeiswyr teilwng o fryniau Clwyd i Went tybed? Ond fe wnes i fwynhau ar y cyfan, a’r tasgau’n dwyn i gof ddiwrnodau cystadlaethau sgiliau fferm mudiad Ffermwyr Ifainc Eryri ers talwm. Ar ôl cwblhau tair tasg gan gynnwys hel mochyn o’r twlc i’r trelar ac ateb cyfres o gwestiynau mewn cadair Mastermind, cafodd pawb gyfle gan Daloni Metcalfe a’r beirniaid i ddychwelyd wythnos nesaf. Dim pleidleisio ffôn drud i’r gwylwyr, felly. Gobeithio y gwelwn ni fwy o gymeriadau a’r cythrel cystadlu wrth i’r gyfres fynd rhagddi. Ac i’r dilynwyr mwyaf pybyr o’ch plith, mae ’na hyd yn oed gwefan a thudalen ‘gweplyfr’ arbennig i gyd-fynd â’r cyfan.

Dychwelodd y mab fferm a’r comedïwr o Fôn i gyflwyno Tudur Owen o’r Doc bob nos Fawrth, gyda Dafydd Iwan a Glyn Wise yn rhannu’r soffa yn y rhaglen gyntaf. Gyda chymysgedd arferol o sgyrsiau ysgafn a thynnu coes y gynulleidfa, mae’n ffordd digon difyr o dreulio hanner can munud. Ac eto i gyd, dwi’n gweld eisiau’r hen PC Leslie Wynne sydd ond yn ymddangos bob Nadolig bellach.

Sôn am Ddolig (sori!), mae’n siŵr y bydd Gwenda (Sue Roderick) yn addurno’r Bwl cyn hir i geisio codi calonnau’r selogion a hybu’r dafarn yng nghanol dirwasgiad. Ydy, mae criw Ista’nbwl yn ôl i hollti’r gwylwyr megis Marmite. Tra ’mod i’n eithaf hoff ohoni, mae eraill yn wfftio’r ymgais ddiweddaraf i godi gwên yn y Gymraeg (gweler sgyrsfan
Maes-e am sylwadau di flewyn ar dafod!). Mae’r cyfeiriadau niferus at ddigwyddiadau’r wythnos, o ffasiwn Cheryl Cole i etholiadau’r Archdderwydd, yn ddifyr er nad bob amser yn llwyddiannus, a’r awduron weithiau’n canolbwyntio gormod ar fod yn ‘gyfoes’ ar draul y doniol.