Gorilas a gwleidyddion


Mae’r busnes troi clociau fel petai wedi sbarduno S4C i lansio cyfres newydd bob yn ail noson. Neithiwr, dychwelodd ymryson goginio boblogaidd Mr Newbury ac Emma Walford i chwilio am bencampwr y gegin yn Tigh Dudley, cam a naid fferi i’r Ynys Werdd. Pob parch i Swydd Gorc, ond mae’n dipyn o gwymp ar ôl coginio a chrasu dan haul Sbaen a’r Eidal yn y cyfresi cynt. Does dim gwirionedd yn y si mai o dref Dudley yn y West Midlands y daw’r gyfres nesaf, oherwydd dirwasgiad dwfn a pharhaus Prydain.

Siomedig braidd oedd Gofod, cyfres gylchgrawn newydd i’r ifanc (am wn i) bob nos Lun. Diffyg gwreiddioldeb oedd y broblem gyntaf. Dychmygwch bytiau o Sioe Gelf, Wedi 3 a Nodyn wedi’u cymysgu mewn powlen fawr, a dyna chi syniad o’r lobsgóws a gafwyd. Diffyg dolen gyswllt oedd yr ail broblem. Yr wythnos diwethaf, cafwyd eitem fer am dri aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi a redodd rownd Llundain mewn siwt gorilas, dros gorilas (peidiwch â holi); cip ar adroddiad ysgol Daf Du (peidiwch â holi eto); cyfres o gwestiynau absẃrd i Tudur Owen; Elin Fflur yn bysgio ar blatfform Bangor; ac Arwel ‘Hogia’r Wyddfa’ Jones yn codi cywilydd ar ei fab Daf Du a benderfynodd siarad Cymraeg sathredig mewn ymgais i ymddangos yn ‘cŵl’ ar ôl troi’r deugain oed efallai? Mae’r cyflwynwyr, Elen Gwynne a Gethin Evans - a’r gwylwyr - yn haeddu gwell.

Mi fuasai sawl un yn dadlau fod etholwyr hirddioddefus gwledydd Prydain yn haeddu gwell hefyd. Wedi pantomeim Nick Griffin a’r BNP, tro Jacqui Smith - y cyn-Ysgrifennydd Cartref a ddefnyddiodd ei hail gartref i gamfanteisio ar dreuliau Aelodau Seneddol - oedd bod yn gocyn hitio Question Time o Landudknow. Llandudno i chi a fi. Nid y byddech fawr callach chwaith, o glywed acenion Merswy a Manceinion y gynulleidfa. Ni lwyddodd hyd yn oed Elfyn Llwyd i roi stamp Cymreig ar y drafodaeth, gyda’r Cynulliad Cenedlaethol yn gywilyddus o absennol o’r cyfan. Dyma golli cyfle aruthrol i addysgu’r garfan gref o Gymry sydd byth yn cael dos o wleidyddiaeth y Bae gan raglenni cynhenid fel Dragons’ Eye, Sharp End na Pawb a’i Farn. O leiaf roedd yr olaf, a ddaeth o Gaerfyrddin ar yr un noson, yn trafod y refferendwm hollbwysig i roi mwy o gig ar esgyrn sychion y ’Sembli. Ac nid sét newydd oedd syrpreis fawr y noson, ond galwad Felix Aubel - Tori egsentrig glân gloyw - am senedd â phwerau deddfu llawn i Gymru.