Pobol od ar y naw


Os ydych chi wedi cael hen ddiflasu ar ddilyw di-baid fis Tachwedd, beiwch Dafisiaid Treffynnon! Does ganddyn nhw ddim iot o ddiddordeb mewn achub y blaned, na chyfrannu at darged Llywodraeth y Cynulliad o ailgylchu 70% o holl wastraff y wlad erbyn 2025. Nhw yw unig deulu’r stryd sy’n rhy ddiog i ddidoli, ac yn taflu popeth i’r bin du. Ond bwriad rhaglen realaeth ddiweddaraf BBC Cymru-Wales yw newid eu hagwedd a’u hymddygiad yn Changing Lives: Going Green (bob nos Lun) trwy eu hanfon i bentref ecogyfeillgar yn ardal Llanfyllin - neu “Extreme Green Community”, chwadal y rhaglen. Cyfle felly i ffeirio’u dau gar am feics, yr Xbox am sesiynau ioga, a bwydydd pecyn o bendraw’r byd am gynnyrch organig lleol. A sôn am sioc i’r system, wrth Tim, Gaynor a’u dau o blant gyrraedd eu cartref newydd ac i foethusrwydd yr iwrt, rhyw fath o babell Fongolaidd. Ond toedd hynny’n ddim o gymharu â’r braw o weld y cyfleusterau en-suite arbennig, sef can dŵr dros dwb sinc. Er hynny, roedd y tad wedi cael rhywfath o dröedigaeth erbyn diwedd y rhaglen, ac yn canmol eu ffordd syml o fyw heb orfod poeni am oriau gwaith hir a’r biliau beunyddiol. Cawn weld a fydd yn teimlo’r un fath wedi pythefnos o wagio’r tŷ bach yng ngwaelod yr iwrt.

Mae’n rhaglen debyg iawn i lu o gyfresi ‘gwyrdd’ S4C, yn enwedig Cwm Glo Cwm Gwyrdd - ac roedd y teitlau agoriadol yn gopi uniongyrchol bron o’r cyfresi Cymraeg. Ond lle’r oedd Iolo Williams yn tra-arglwyddiaethu ar honno, mae’r gyfres Saesneg yn gadael i’r teulu adrodd yr hanes. Yn anffodus, mae’r gyfres yn porthi’r ddelwedd ystrydebol o’r gwyrddion fel pobl ddŵad, od ar y naw. Cafwyd cyfweliadau gydag Albanwr o wehyddwr a merch ifanc a ffodd o straen bywyd Llundain. Ac roedd Steve Jones, arweinydd y gymuned ecogyfeillgar, yn llawn rwtsh ystrydebol gyda’i “sustainability” a’i “non-consumerism options”. Un eironi bach difyr oedd bod Steve Jones yn gyrru hen gronc o Range Rover sy’n siŵr o lygru mwynder Maldwyn. Gyda llaw, pob clod i’r cynhyrchwyr am gofio am gynulleidfaoedd y gogledd-ddwyrain, a dewis teulu o’r parthau anghofiedig hynny yn lle dibynnu ar gymeriadau Caerdydd a’r cymoedd bob tro.

Sôn am ailgylchu, mae Hywel Llywelyn yng nghanol affêr diweddaraf Cwmderi eto, er bod yr hen gi’n ddieuog y tro hwn. Er gwaethaf dagrau diddiwedd Ffion, mae’n anodd cydymdeimlo â’r athrawes gwynfanus a Cai Rossiter - cwpl lleiaf hoffus Pobol y Cwm. Maen nhw’n haeddu’i gilydd, ys gwedodd Anti Marian!