Dolig Elin, Ruth a David


Elin Fflur, Ruth Jones a David Tennant. Trindod sy’n rhan amlwg iawn o amserlenni’r Ŵyl eleni. Cyd-ddigwyddiad llwyr eu bod nhw'n ymddangos mewn cymaint o raglenni mewn byr amser, neu brawf o’u poblogrwydd ymhlith cynhyrchwyr â’u bryd ar y ffigurau gwylio? Bid a fo am hynny, mae yna ambell beth i’ch sodro ar y soffa gyda’ch brechdanau twrci oer eleni.

Bydd yna gryn dipyn o chwerthin a chrïo noson Nadolig, wrth i bennod olaf-ond-un Gavin and Stacey ymweld â thraeth Ynys y Barri. Rhwng honno, drama gomedi S4C, sioe siarad Ruth Jones’ Christmas Cracker ar BBC Wales, ac addasiad o stori enwog Dylan Thomas, A Child's Christmases In Wales (BBC4), wedi’i osod yn yr 1980au, bydd merch enwocaf Porthcawl mor amlwg â sbrowts a sanau newydd Marcs'a'Sbarcs.

Beth am uchafbwyntiau eraill? Ar noswyl Nadolig, cawn weld ffrwyth llafur Heledd Cynwal, Stifyn Parri, a thrigolion Dyffryn Tywi, yn Seren Bethlehem - sy’n galonogol iawn wrth i wir ystyr yr ŵyl foddi dan don o secwlariaeth a Santa. Dwi’n edrych ymlaen at ffilm fawr noson Nadolig, Ryan a Ronnie gan Meic Povey, a fu ar daith o amgylch sinemâu’r wlad yn y gwanwyn. Rhys ap Hywel ac Aled Puw (sydd yr un ffunud â Ryan Davies) sy’n chwarae rhan y ddeuawd eiconig yn eu gig olaf yng nghlwb y Double Diamond, Caerffili, ym 1974. Diddanwch tra gwahanol a gawn ni ar noson San Steffan, gyda’r heddwas campus Leslie Wynne yn cyflwyno: Cabaret Cyffwrdd y Sêr o’r Galeri Caernarfon, yng nghwmni anffodusion fel Elin Fflur a Daf Du. Ond ble ar y ddaear mae Margaret Williams, seren y sioe y llynedd? Y flonden o Fôn fydd un o gystadleuwyr cegin Dudley Newbery yn Pryd o Sêr (27 a 29 Rhagfyr) i weld ai caws ar dost neu cordon bleu yw arbenigedd enwogion eraill fel Siân Lloyd, Siw Hughes, Derwyn Jones, Tudur Dylan ac Elfed Roberts. Ydy, mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyrraedd uchelfannau ‘selebs’ y Gymru Gymraeg. Pwy fuasai’n meddwl?

Fe fyddai’n chwith iawn ar S4C heb y Brifwyl, wrth i gyngherddau’r Bala lenwi dwy noson. Ar noson Nadolig, bydd yr hen, hen, hen ffefrynnau Only Men Aloud, Rhydian a giang Glanaethwy yn cyflwyno Cyngerdd Sêr y Steddfod, a Dafydd Iwan yn arwain dathliadau’i gwmni recordio yn Cyngerdd Sain yn 40 ar noson ola’r flwyddyn yng nghwmni Heather Jones, Meic Stevens... o, a Ms. Fflur wrth gwrs.

Does dim ffilm Gymraeg i’n diddanu ar noson gyntaf 2010. Yn hytrach, bydd S4C yn dilyn fformat poblogaidd Channel 4 a’r myrdd o sianeli lloeren eraill trwy greu rhaglen-rad-ar-y-naw a dangos cadwyn o glipiau’r gorffennol yn y 40 Uchaf: Siart y Dywediadau dan ofal Aled ‘Baddondy’ Samuel. Gyda llinellau cofiadwy gan C’mon Midffil, Torri Gwynt a Ryan a Ronnie ymhlith y deugain, mae’n swnio’n ffordd digon dymunol o leddfu penmaenmawr y noson gynt. Ond yn bersonol, BBC1 fydd yn hawlio’r sylw, wrth i David Tennant roi’r Tardis yn y to wedi bron i bum mlynedd wrth y llyw yn Doctor Who - The End of Time. Ac i goroni’r noson, cawn gyfle i ffarwelio â Gavin and Stacey ar ddiwrnod priodas Nessa a …? Cracking!

Mwynhewch y gwylio.