Siarad babis


Mae’n bnawn Sul oer a gwlyb, drannoeth y Gêm, ac roeddwn i’n chwilio am rywbeth i godi’r galon. Diolch byth fod clasur comedi Cymreig yn saff ym mol y peiriant recordio. Do, fe ddarllenoch chi’n iawn y tro cyntaf. Clasur comedi Cymreig. Diolch i dîm sgwennu Ruth Jones a James Corden, mae cynulleidfaoedd o bob cwr wedi’u syrthio mewn cariad gyda hanes y ferch o Ynys y Barri yn canlyn llanc ifanc o Essex. Wedi dechrau digon di-nod ar sianel leiafrifol BBC Three ddwy flynedd yn ôl, mae wedi cyrraedd uchelfannau poblogaidd BBC1 erbyn hyn. Ydy, mae Gavin and Stacey yn ôl!

Yn y drydedd gyfres - a’r olaf meddan nhw - mae Gavin yn araf setlo i’w swydd newydd ar ôl dychwelyd gyda’i wraig dros Bont Hafren. Ac er gwaetha’r holl falŵns a negeseuon ffôn i ddymuno’r gorau iddo, ac Yncl Bryn yn anfon smörgåsbord o frechdanau caws i’w swyddfa, mae Gavin yn dal i hiraethu am adre. Rygbi, nid pêl-droed yw tîm saith-bob-ochr y swyddfa, a dim ond Derek Tywydd, Iolo Williams a Pobol y Cwm sydd ar y teledu fin nos. Mae wedi pechu Smithy, ei ffrind gorau, am ei adael yn Billericay bell, ac mae ei fam (Alison Stedman mor wych ag erioed) yn galaru dros ei chyw melyn mewn gwlad dramor. Ond buan y daw pawb at ei gilydd ym medydd Neil Noel Edmond Smith, mab Smithy a Nessa - a enwyd ar ôl tad Nessa (Ifan Huw Dafydd) a ffrind Nessa o Hear’say gynt, nid y cyflwynydd barfog â siwmperi streipïog, iff iw plîs. Mae’n gyfuniad o gomedi domestig traddodiadol gyda sefyllfaoedd y gall pob teulu uniaethu â nhw, ac isgymeriadau cofiadwy fel Doris (Margaret John) yr hen wreigan drws nesa sy’n codi dau fys ar y byd.

Fe ddylai’r Dolig helpu i gael gwared ar y felan hefyd, ond nid mis a mwy yn gynnar chwaith. Rhwng y bali hysbysebion soffas ac ‘enwogion’ mewn eira-gneud yn hyrwyddo vol-au-vents rhewedig, dwi’n barod am fis Ionawr! Ond druan â thrigolion Dyffryn Tywi sy’n gorfod paratoi ers canol Hydref, fel rhan o gyfres Bethlehem’s Got Talent, sori, Seren Bethlehem. Yn y drydedd raglen, roedd Heledd Cynwal yn chwilio am faban newydd-anedig ar gyfer drama’r geni mwyaf uchelgeisiol, os nad drutaf y wlad, mewn sied yn Llangadog. Roedd y cyfan yn ddigon difyr, er hanner awr yn ormod i mi. Fe arhosai i tan y perfformiad byw ar S4C noswyl Nadolig
.