Mewn cyfres ddwy ran, dychwelodd Bethan i’r pentref bach diarffordd hwnnw yn Niger State a greodd gymaint o argraff arni fel athrawes Saesneg i wasanaeth gwirfoddol dramor y VSO chwarter canrif yn ôl. Doedd rhai pethau heb newid dim, a dim sôn am gyfleustodau’r byd modern o hyd. Tipyn o gamp i griw ffilmio Telesgop, decini! Roedd hi’n dal i orfod teithio yno mewn canŵ, a’r pentrefwyr yn dal i ddisgwyl am drydan a dŵr tap. Roedd hen gartref concrid Bethan bron yn adfail, a’r hen ddosbarth y bu’n dysgu ynddo yn gragen wag. Ond diolch byth, roedd yna floc dosbarthiadau newydd yno bellach, lle cafodd Bethan y wefr o ddysgu am y tro cyntaf ers 1986. Ond y tro hwn, cyfaddefodd ei bod yn “nacyrd” ar ôl gweithio yn y gwres llethol. Ac roedd Bethan yn ddigon gonest i gyfaddef bod hyd yn oed y plantos gorfrwdfrydig a heidiai ati yn niwsans fel y mosgitos di-baid wrth iddi chwilio am gornel dawel i fyfyrio a ’sgwennu. Roedd hon yn rhywbeth amgenach na thrip Michael Palin-aidd yn unig - roedd hefyd yn siwrnai bersonol o boenus, wrth i’r gyflwynwraig grïo’n gwbl agored o flaen camera. Rhwng atgofion am Katie, ei chyd-athrawes Seisnig i’r carn a laddwyd mewn damwain car yn 24 oed, a’r euogrwydd o gefnu ar blant a oedd yn dibynnu cymaint arni am ddysg a dealltwriaeth o’r byd mawr, mi agorodd y llifddorau fwy nag unwaith. Hynny a’r cais syfrdanol gan gyn-ddisgybl arall wedyn, Omar, i “Miss Bethan” fynd â’i fab 14 oed yn ôl i Gymru gyda hi er mwyn gwella’i addysg. Sefyllfa gwbl amhosibl, heblaw i Fadonnas y byd wrth gwrs.
Pluen arall yn het rhaglenni dogfen S4C. Gwych.