Cymdogion chwarter canrif

Gyda sylw mawr i ben-blwydd arbennig sioe sebon y Cocnis, mae ond yn iawn i’r Aussies gael mensh hefyd. Ydy, mae’n chwarter canrif ers i gymdogion clên Ramsay Street o Felbourne braf, gyrraedd ein cartrefi, gyda bêbs mewn bicini, pishyns efo pyrms, setiau sigledig a phlotiau simsan. Roedd cymeriadau cofiadwy fel Madge a Henry, Scott, Mike a Plain Jane Superbrain, Des a Daphne, Helen ein nain ni oll, Mrs Mangle fusneslyd a Bouncer y labrador bach del, yn rhan mor amlwg o f’arddegau â phlorod a chaneuon INXS - heb sôn am ryw hogan gwallt cyrls o ’Stiniog. Cofio dotio o glywed Pam Willis (y Gymraes Sue Jones) yn dweud brawddeg Gymraeg am ryw reswm anesboniadwy. Ac yn nyddiau coleg wedyn, glafoerio dros Annalise a Beth a rhyfeddu pan ddaeth Harold Bishop yn ôl o farw’n fyw pan roedd pawb arall yn tybio ei fod wedi boddi’n ochra Tasmania. Boddwyd y sioe wedyn gan glôns o bobl ifanc a ddewiswyd am eu phwwwwwwoargh ffactor yn hytrach na’u dawn actio, collais innau a’r BBC ddiddordeb, a symudodd y sioe i Channel 5. Ar ôl cael sbec fach yn ddiweddar, mae’r clôns ifanc del yno o hyd, a dim ond Dr Karl a Susan a Libby Kennedy, Paul Robinson a Lou Carpenter sy’n gyfarwydd i mi bellach.




Ond mae’n dal i ddenu rhyw 3 miliwn o ffyddloniaid Prydeinig bob amser cinio a phob nos am 5.35pm, er bod y gynulleidfa gynhenid yn gwegian. Er hynny, mae wedi’i gwerthu i tua 57 o wledydd ledled y byd, ac mae’n dal yn rhan annatod o drefn gwylio beunyddiol stiwdants y wlad. Pen-blwydd hapus Neighbours, a diolch am gymaint o atgofion hapus a heulog.
Ar ôl tri - “Neeeeeeeeibyrs, Everybody needs good neeeeeeeeibyrs…”