Bobol bach!

Peidiwch â chyffroi na chredu’n ormodol mewn beirniaid teledu. 'Ffernols celwyddog ydyn nhw. Achos pan ddatgelodd Derfel, adolygydd teledu Leri a Daf ar Radio Cymru yn ddiweddar, fod wyneb cyfarwydd o’r gorffennol yn dychwelyd i Gwmderi, mi aeth fy nychymyg yn drên. Grêt, meddyliais. Os ydi Neighbours yn gallu denu Paul Robinson yn ôl, ac Eastenders yn llwyddo i aduno Carol Jackson â’i chlan chavllyd, siawns y gallai cynhyrchwyr Pobol y Cwm chwifio siec swmpus o flaen cyn-gymeriad poblogaidd. Tybed ai Mrs Mac fydd yn dod adre ar ôl i’r dirwasgiad roi’r farwol i Bar Jean yn Sbaen? Neu Kath Jones yn dychwelyd i warchod ei mab a’i hwyr hoffus rhag Debbie ddieflig? Dic Deryn (Ifan Huw Dafydd) neu Meira (Sara McGaughey) hyd yn oed? Mae hen hanes rhwng y ddau heb sôn am gysylltiadau teuluol yn Dai Sgaffalde a theulu Penrhewl a Siop y Pentre? Neu Lisa (Beth Robert), y gnawes orau a welodd y Cwm erioed?

Ond na. Roedd y gwirionedd yn gymaint o siom â’r Chwe Gwlad i Gatland eleni. Yr enw mawr o’r gorffennol oedd…Norman Price. Na, nid cochyn Sam Tân, ond cyn-berchennog (am wn i) y Plas rhyw ddeng mlynedd yn ôl pan oedd Eileen yn gyw-gogydd yno a Denz dal i ffermio neu ddreifio’r lori gaca. O beth dwi’n cofio, rhyw gymeriad comig, ymylol braidd, oedd e, a ddiflannodd wrth i’r Plas fynd i ebargofiant fel llawer o leoliadau allanol y gyfres - does braidd dim sôn am glwb golff Breeze Hill na gwesty’r Glyndŵr bellach, naill oherwydd mympwy’r cyfarwyddwr neu fod yr union leoliadau allanol yn rhy ddrud/ddim ar gael mwyach. ‘Y Dorlan’ ydi’r lle dychmygol diweddaraf i ddod o nunlle, wrth i Norman Price ystyried a ddylai roi cytundeb i Adeiladwyr ABD (Dai a Brandon) neu i un o gronîs Ieuan Griffiths. Amser a ddengys a ddaw yn gymeriad canolog unwaith eto, neu’n diflannu i ryw ‘Bermuda Triangle’ o dir neb rhwng Cwmderi, Llanarthur a Chwrtmynach.
Beth nesa? Un o ecstras hynafol a chysglyd yng nghadair parker knoll Cartref Brynawelon ers talwm yn pendwmpian ar soffa’r Deri? Dwi’n disgwyl lot gwell na hynna erbyn deugeinfed pen-blwydd y gyfres yn 2014!!