Bum mlynedd ar hugain yn ôl, roeddwn i’n gyw-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy, Llanrwst. Dyma flwyddyn cyhoeddi record gyntaf siwpyrgrwp y dref, Y Cyrff, a phan gynhaliwyd cyngerdd enfawr ‘Dwylo dros y Môr’ ym Mhrifwyl y Rhyl. Blwyddyn fawr clwb pêl-droed Dinas Bangor yn erbyn Atletico Madrid, a thrychineb stadiwm Heysel yng ngwlad Belg. A blwyddyn cychwyn cyfres sebon fwyaf drud ac uchelgeisiol S4C ar y pryd, ac un newydd sbon ar BBC1.
Chwarter canrif yn ddiweddarach, mae Dinas wedi hen ddiflannu dan donnau Bae Caerdydd, tra bod Eastenders yn mynd o nerth i nerth. A nos Wener diwethaf, fe ddathlwyd mewn steil gyda phennod fyw i ddatgelu llofrudd diweddaraf Albert Square - sy’n addas o gofio mai marwolaeth hen drempyn agorodd y bennod gyntaf ym 1985.
Ydy, mae cyfres y Cocnis yn gyfystyr â chymeriadau’n dod yn ôl o farw’n fyw, a straeon tywyll a thruenus o ddigalon. Ac roedd y bennod arian yn enghraifft glasurol o hynny, gyda’r trigolion yn bytheirio a chyhuddo’i gilydd o ladd Archie Mitchell, a phriodfab ifanc yn disgyn i’w farwolaeth o ben to wrth geisio dianc rhag yr heddlu. Anghofiwch am y siampên, ffoniwch y Samariaid!
Dw i’n cyfaddef nad ydw i’n ddilynwr brwd ers y nawdegau, pan roedd yna Gymro bach o’r enw Huw (Richard Elis, un o ser Ar y Tracs dros y Nadolig) yn sgwatiwr ar y Sgwâr. Mae’n hawdd bod yn snob sebon, ac wfftio rhywbeth sy’n fawr ddim ond delfryd sgriptwyr dosbarth canol o fywyd dosbarth gweithiol de-ddwyrain Llundain ac mor gredadwy ag ymddiheuriad gan Tiger Woods. Ond roedd pennod nos Wener yn werth ei gweld, er mwyn profi cyffro’r darllediad byw a chanfod dirgelwch y llofrudd – tipyn o gamp, pan fo’r wasg dabloid yn enwog am ddatgelu a difetha straeon wythnosau ymlaen llaw fel arfer. Roedd rhan ohonof yn ysu i weld pethau’n mynd o chwith, ond heblaw am un actor yn cael pwl o amnesia, gwaith camera go herciog ar brydiau, a llifoleuadau bron â dallu’r olygfa gloi, roedd hi’n bennod wirioneddol gyffrous. Bron y gallech glywed calonnau’r cast yn curo fel gordd dan yr holl adrenalin. Ac roedd ambell un yn actio i’r carn dan bwysau’r bennod fyw, yn enwedig Lacey Turner fel Stacey, y llofrudd ifanc beichiog, gweddw, â phroblemau iechyd meddwl. Mae rhywbeth bach yn poeni pawb...
’Sgwn i a fydd cynhyrchwyr Pobol y Cwm yn barod i fentro’r un fath ymhen pedair blynedd, i ddathlu deugeinfed pen-blwydd y gyfres Gymraeg? Wedi’r cwbl, hi ydi cyfres sebon teledu hynaf y BBC!