Ymddiheuriadau cyn cychwyn. Mae’n amhosibl sgrifennu colofn adolygu heb gyfeirio at raglenni sy’n destun dathlu neu ddiawlio ar hyn o bryd. Ydy, mae mapolgamau’r haf wedi cychwyn go iawn. Mae llygaid y byd ar Dde Affrica, sy’n golygu fod gemau fel Ghana v Awstralia hyd yn oed yn denu biliynau o wylwyr ym mhedwar ban. Ac mae rhaglenni newyddion BBC, ITV a Sky yn colli pob pen rheswm wrth lapio’u hunain ym maner San Siôr a rhoi’r flaenoriaeth i garfan o filiwnyddion Fabio Capello cyn unrhyw stori am newyn, ddaeargryn neu fom car arall yn y Dwyrain Canol. Ac er bod tîm Tosh yn absennol fel arfer, mae’n drueni nad oes yna ongl Gymraeg i’r gystadleuaeth. Iawn, mae cyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts wrthi’n ffilmio rhaglen arbennig o Dde Affrica ar gyfer Y Byd ar Bedwar, ond meddyliwch pa mor boblogaidd fyddai rhaglen gloriannu wythnosol gan griw Sgorio neu fersiwn teledu o Ar y Marc, seiat drafod y bêl dron ar Radio Cymru bob bore Sadwrn? Tipyn mwy poblogaidd, heb os, nag uchafbwyntiau gem y Gwyddelod a’r Crysau Duon a ddarlledwyd yn ystod yr oriau brig nos Sadwrn diwethaf. Twt twt, S4C.
Ar y llaw arall, rhaid canmol y Sianel am ddangos gemau cartref Morgannwg yn fyw ar raglen Criced (Tinopolis). Gemau ugain pelawd sy’n para rhyw deirawr, hynny yw, nid cyfresi tri diwrnod traddodiadol. Cyn hyn, toedd y gamp ddim yn apelio rhyw lawer, gyda’r ddelwedd ystrydebol o gynulleidfa geriatraidd mewn hetiau panama yn mwynhau cwrw chwerw cynnes a brechdanau ciwbymber wrth wylio’r gamp ar lain pentref Spiffing-upon-Thames. Ystrydebu? Moi? Ond beth a welais oedd chwaraewyr mewn lifrai llachar, cerddoriaeth bop uchel yn dathlu pob rhediad da, a phobl a phlant yn mwynhau awyrgylch parti yng Ngerddi Sophia. Criced “ar ffurf ffresh, ffrenetig, ffwrdd-â-hi” ys dywed Alun Wyn Bevan ar wefan www.s4c.co.uk/criced (DS: diweddarwch hi os gwelwch yn dda!). A diolch i dîm proffesiynol o gyflwynwyr fel Angharad Mair a gohebwyr fel John Hardy, Huw Eic a’r dyfarnwr profiadol Jeff Evans, roedd yna ddigon i addysgu a diddanu newydd-ddyfodiaid fel fi. Mae Steffan Rhodri yn llwyddo i gael gafael ar amrywiaeth o siaradwyr Cymraeg yn y dorf, a chyflwynwraig chwaraeon Radio Cymru a Five Live, Dot Davies, yn holi chwaraewyr y ddau dîm - gwaith diddiolch ar brydiau, yn enwedig wrth holi Jamie Darlympe, capten sych y Dreigiau! Elfen ddifyr arall yw’r ffaith y gallai’r gwylwyr gartref anfon negeseuon ‘trydar’ neu e-bostio termau newydd Cymraeg at y gamp, neu farddoni gyda sylwebwyr gwadd fel yr Archdderwydd T James Jones. Ble arall yn y byd y cewch chi gyfuniad o griced a chynganeddu croes o gyswllt gydag ‘n’ wreiddgoll?