Diolch yn fawr


Prin bythefnos sydd ers i mi ganmol arlwy wledig S4C ddiwethaf. A byd y ffarmwrs oedd canolbwynt S4C wythnos diwethaf hefyd, gyda darllediadau lu o’r Roial Welsh yn Y Sioe/10. A dwi’n golygu “llu” hefyd. Wyth awr o deledu byw dan arweiniad Nia Roberts (ydi’r graduras am gael gwyliau haf o gwbl eleni, heblaw am Lanerchaeron, Llangollen a Llanelwedd?) a chriw prysur fel Daloni Metcalfe, Ifan Jones Evans ac Edward Tudor Jones. A na, does dim sail i’r si bod rhaid cael enw dwbl cyn ymuno â’r criw darlledu. Hen ddigon o ddeunydd felly ar gyfer y rhaglenni uchafbwyntiau hwyrol, gyda Shân Cothi yn llenwi welintyns Nia.

Anghofiwch y siom aruthrol yn sgil penderfyniad rhyw farnwr dinesig i atal cynllun difa moch daear y Cynulliad - dyma gyfle i ddathlu cefn gwlad ar ei orau. Sdim ots os na allwch chi wahaniaethu rhwng y Torwen a’r Tecsels neu os ydych yn meddwl mai mab rheolwr Man Iw ydi Ffyrgi Bach, roedd gan y rhaglenni hyn rywbeth at ddant pawb. Yn ogystal â rhyfeddu ar sglein y da byw ym mwd y Prif Gylch, cawsom ymweliadau cyson â’r Neuadd Fwyd newydd, y babell flodau a llysiau lliwgar, a gweld cneifiwrs o bedwar ban yn ymgiprys am y Gwellaif Aur. Gair i gall i’r cyflwynwyr – peidiwch byth â cheisio cynnal sgwrs yn mwrlwm swnllyd y sied gneifio eto. Diolch byth am isdeitlau! Ac mae’n debyg fod yr isdeitlau’n fuddiol iawn i gannoedd os nad miloedd o wylwyr dros y ffin a oedd yn chwilio am rywbeth i lenwi’r gwacter yn sgil tranc sioe’r Saeson yn Stoneleigh.

Wyth awr o raglenni byw y dydd ac awr o uchafbwyntiau fin nos, felly. Cymharwch hynny â’r sylw yn y Saesneg. Hanner awr bob nos gyda Sara Edwards ar BBC2, a phytiau deng munud gan Jonathan Hills ac Andrea Benfield ar Wales Tonight draw ar ITV dlawd. Diolch, felly, i S4C am arlwy gynhwysfawr a blasus o fro Buellt, a naw wfft i’r Monwysyn blin ar Radio Cymru a hacs Llais y Sais/Western Mail â’u bryd ar bentyrru penawdau negyddol bob gafal.

Gair o ddiolch hefyd am waith y diweddar Lowri Gwilym. Yn gomisiynydd rhaglenni ffeithiol S4C, daeth â chyfresi dogfen caboledig O’r Galon a Wynebau Newydd i’n sgriniau heb anghofio’i chyfraniad gwerthfawr i O Flaen dy Lygaid o ddyddiau’r BBC. Ond diolch yn bennaf iddi am Beti a’i Phobl, sioe siarad fytholwyrdd Radio Cymru a flagurodd chwarter canrif yn ôl.