Dirgelwch y Gwylwyr Cymraeg

Mae adran ddrama BBC Wales ar ben ei digon eto, yn sgil yr ymateb tra-ffafriol i Sherlock sydd, fel rhan fwyaf o gyfresi Saesneg o Landaf y dyddiau hyn, mor Gymreig â’n cestyll ni. Go brin y buasai Arthur Conan Doyle yn nabod ei greadigaeth enwog heddiw chwaith. Yn fersiwn Steven Moffat, mae’r ditectif über-fodern yn anfon nodyn-bodyn ac yn gwisgo patshys nicotin yn lle craffu drwy’r chwyddwyr a smygu cetyn. Ac yn niffyg cyfres dditectif Cymraeg (aeth Gari Tryfan i’r gwellt ar ôl ffilm fethiannus ddwy flynedd yn ôl), beth am ofyn i’r hen Holmes a Watson ddatrys y dirgelwch mwyaf oll - dirgelwch y gwylwyr Cymraeg. Ydy, mae’n hysbys fod S4C yn colli tir, cwmnïau cynhyrchu fel Calon a stiwdios Barcud wedi mynd i’r wal, a llu o straeon gwrth-Gymraeg yn y Guardian a’r Western Mail am lwfansau landrofyr Dai Jones a rhaglenni’n Sgorio dim, heb sôn am ddiflaniad disymwth Iona Jones.

Does ryfedd fod y Sianel yn crefu am ein cefnogaeth yn fwy nag erioed o’r blaen. Ond faint ohonon ni sy’n malio mewn gwirionedd? Mae’n anhygoel ac arswydus meddwl fod hanner miliwn yn llai ohonom yn gwylio yn 2009 (549,000), o gymharu â 2004. Mae’n destun rhaglen arbennig o’r gyfres boblogaidd Lle Aeth Pawb? Felly, dyma fynd ati i gynnal f’ymchwil hynod fanwl a thechnegol fy hun - holi rhyw ddwsin o ffrindiau a theulu. Cymysgedd o ffermwyr, athrawon, cyfieithwyr, gweithwyr iechyd a’r byd ariannol, pob un wan jac yn Gymry Cymraeg o’r crud. Dyma gynulleidfa draddodiadol Cefn Gwlad a Noson Lawen a darllediadau byw o’r Sioe a’r Steddfod (sy’n cyfateb i batrwm y Deg Uchaf), a gwasanaeth llwyddiannus Cyw i’r rhai bach. Mae Rownd a Rownd yn denu tipyn mwy o glod na saga nosweithiol Cwmderi, gyda llawer yn dal i hiraethu’n daer am ddyddiau Dic Deryn, Carol, Lisa a Mrs Mac. Trowch i wefan swyddogol Pobol y Cwm, ac mae’r fersiwn Saesneg yn fwy bywiog o lawer gyda llu o sylwadau gan wylwyr o Loegr. Ar un llaw, roedd hiraeth mawr am ddyddiau’r dramâu cyfnod hefyd, o’r Wisg Sidan (1994) i Traed mewn Cyffion (1991), tra bod yna gryn edrych ymlaen at bedwaredd gyfres o Teulu yn yr hydref. O safbwynt adloniant ysgafn, roedd 04 Wal deng mlwydd oed yn boblogaidd iawn, yn wahanol i’r ymateb llugoer i Sioe’r Tŷ. Ac o ran comedi, mae ’na alw mawr am raglenni dychan a sgetshis tebyg i Plu Chwithig ers talwm. O! am raglenni Swigs o Flaenau Gwent eleni…

Ac o! am gael byw yng Ngwlad y Basg, sy’n debyg i Gymru o ran poblogaeth ac iaith leiafrifol. Yn y rhan unigryw hon o ogledd Sbaen, mae Euskal Irrati Telebista yn cynnig dwy sianel deledu Basgeg ar gyfer 25.7% o siaradwyr yr iaith mewn poblogaeth o 3 miliwn – sianel gyffredinol a sianel ieuenctid - ynghyd â sianel ddwyieithog Basgeg a Sbaeneg i wylwyr rhyngwladol. I mi, mae hynny’n awgrymu awch, brwdfrydedd a buddsoddiad yn nheledu Basgeg, ac yn codi cwestiynau mawr a dyrys am berthynas ni’r Cymry chwit-chwat ac S4C.