Hiwmor gwlad

Adeiladwch sét tafarn wledig yng Ngwynedd. Ychwanegwch griw o slotwyr rheolaidd - Iypi efo’i i-pad, diogyn o warden traffig, pensiynwraig sy’n hoff o glecian peint a hel clecs, tafarnwraig ddi-lol a’i mab di-glem - a barmed ifanc newydd, ystrydebol, o’r Sowth sy’n goesau ac yn geg i gyd. ’Sgrifennwch sgript llawn hiwmor tŷ bach, a dyna chi gyfres newydd o Istan’bwl. Ydy, mae criw brith y Bull yn ôl ar nosweithiau Mercher yn lle’r nos Wener arferol. Cefais flas ar y cyfresi blaenorol, yn wahanol i lawer o’m cyfoedion, yn enwedig y sylwadau smala ar straeon newyddion y dydd. Wythnos diwethaf fodd bynnag, dim ond hanes Alex Jones ar The One Show oedd yn denu’r sylw. Ond dyna ni, petaen nhw wedi dechrau trafod helynt ailadroddus a diflas y byd criced, buaswn i wedi hen ddiffodd y bocs. Ond ar ôl darbwyllo rhai mherthnasau i wylio’r gyfres gomedi hon, teimlais fy hun yn cywilyddio ac yn cuddio tu ôl i nofel Jerry Hunter. Mae angen lot, lot gwell nag ebychiadau o ‘goc oen’ a bachgen dan oed yn chwydu’i berfedd yn y lle chwech, i godi gwên.

Y Superman Cymraeg

Roedd yna ddeuawd gomedi wych yn Barri Griffiths: Y Reslar wrth i Barri Bach gymell a gwthio Barri Mawr i’r eithaf yn y gampfa, mewn Wenglish Port. Mewn rhaglen ddogfen bry-ar-y-wal, gwelsom y cawr 21 stôn o Dremadog, a chyn-gladiator cyfres Sky 1, yn paratoi ar gyfer gyrfa lewyrchus gyda World Wrestling Entertainment yn Florida bell. Aethom am drip siopa bwyd sylweddol i’r archfarchnad, a’i weld yn sglaffio dau dun o diwna a phwdin reis (yn syth o’r tun, siwr iawn) fel tanwydd i’w gyhyrau, cyn troi am y gwely haul er mwyn porthi’i ddelwedd newydd fel “Mason Ryan”. Talodd deyrnged hyfryd i’w fentor, Orig Williams, drannoeth ei farwolaeth. Hei lwc iddo, a siawns am Gymro llwyddiannus ym myd y campau wedi ffars tîm Tosh ym Montenegro.

“Hiwmor” sy’n dod yn syth i’r cof wrth grybwyll enw’r awdur a’r cyn-bregethwr Harri Parri. Rwyf wrth fy modd gyda hynt a helynt y gweinidog Eilir Thomas a’i braidd lliwgar ym mhentref dychmygol Porth-yr-aur, ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at glywed detholiad ohonynt yn Straeon Harri Parri gyda John Ogwen nos Sul nesa. Mae’n cyd-fynd â chyfres o’r enw Pen Llŷn Harri Parri (bob nos Lun), lle mae’r dyn i hun yn ailddarganfod ei gynefin. Roedd ganddo stôr o straeon difyr am gysylltiadau morwrol yr ardal, gan gynnwys sut y cafodd Porth Tŷ Mawr ei hailfedyddio’n Borth Wisgi wedi llongddrylliad fawr ym 1901. Roedd y criw ffilmio’n amlwg wedi llwyddo i fachu ar haul prin yr haf, a gwaith camera Mike Harrison yn dangos y penrhyn ar ei orau gyda machlud haul godidog dros Enlli. Gwledd i’r llygad a’r glust yn wir.


'Enlli' gan Tony Jones www.llynlight.co.uk