Plesio'r beirniaid?

Ro'n i wrth fy modd wythnos diwethaf o weld eitem Newyddion yn dangos criw ifanc Rownd a Rownd yn ffilmio’r gyfres bymtheg oed sy’n dychwelyd i’n sgriniau fis Tachwedd. Ac roedd yna lu o wynebau newydd i’w gweld yng nghaffi Sgram, rhai’n hŷn na’i gilydd. Tipyn hŷn hefyd, o gofio demograffig oedran y gyfres. Dwi’n edrych ymlaen at weld Anti Cheryl o Swydd Buckingham, rhyw fodryb posh i’r plantos sy’n o hael gyda’i phwrs. Dyna’r oedd pen bandits S4C yn ei obeithio’n dawel bach, decini, wrth ei hebrwng o amgylch sét Porthaethwy. Rydyn ni eisoes wedi’i chlywed yn canu clodydd ein diwylliant ym Mhrifwyl Glynebwy. Gobeithio am y gorau felly, ond yn anffodus, mae’r sinig ynof yn ofni mai taith PR oedd hon cyn i doriadau llym y ConDemiaid ddechrau brifo go iawn.

Mae’r beirniaid llenyddol wrthi fel fflamiau y dyddiau hyn. Diolch byth nad ydw i’n nofelwr. Bu Nia Roberts a thri gwestai’n cloriannu’r cynnyrch eisteddfodol ar Pethe Hwyrach dros y tair nos Fercher diwethaf - rhai’n fwy llwyddiannus na’i gilydd. Mae dewis y gwesteion cywir yn gwneud byd o wahaniaeth, fel y tystia’r ail raglen gyda Ian Rowlands, Paul Griffiths. Roedd hi’n bleser gweld yr arlunydd a’r darlithydd celf
Osi Rhys Osmond yn mynd trwy’i bethau’n garlamus, ac yn cofio Olwen Rees yn un o’r golyfeydd noeth cyntaf ar deledu Cymraeg wrth drafod Merched Eira, cynhyrchiad clodwiw Bara Caws o ddrama Aled Jones Williams. Cafodd un o feirniaid llawdrwm Gwobr Goffa Daniel Owen flas o’i ffisig ei hun, wrth i’r adolygwyr roi barn ar ei nofel ddiweddaraf. Ond os oedd Gareth Miles yn swp sâl ar ôl hynny, gobeithio na chlywodd banel Y Silff Lyfrau wrthi. Oes, mae yna reswm arall dros wrando ar Radio Cymru y dyddiau hyn - a chlywch chi mohono’ i’n dweud hynny’n aml - gyda Vaughan Hughes yn llywio’r trafodaethau llenyddol bob nos Fawrth (gydag ailddarllediad bob nos Sul). Yn ddifyr a diflewyn ar dafod, mae’r panel o bedwar yn treulio tri chwarter awr yn canmol neu’n colbio’r llyfrau diweddaraf - rhai ohonynt heb gyhoeddi dim eu hunain wrth gwrs - ac mae’n boenus gwrando arnynt ar brydiau. Ond hei! gwta flwyddyn yn ôl roedd cynhadledd fawr yn Aber yn cwyno am ddiffyg beirniadaeth Gymraeg o sylwedd. Rhwng y ddwy gyfres uchod a slot rheolaidd ar raglenni fore Sul Dewi Llwyd, does dim pall ar yr adolygwyr Cymraeg proffesiynol bellach. Mae’n braf eu cael – ond nid i’r awdur druan efallai.