Ydych chi’n ddigon hen i gofio’r sefyllfa chwerthinllyd honno yn y 1970au pan gafodd ffilm gowboi Shane ei throsleisio i’r Gymraeg ar HTV? Neu beth am Chateauvallon, fersiwn Ffrengig o Dallas a drosleisiwyd ar S4C ganol yr 1980au? Nac ydych? Ystyriwch eich hun yn uffernol o lwcus, felly. A gwae ni os caiff Jeremy Hunt, Gweinidog Diwylliant di-glem San Steffan, ei ffordd. Achos mae’r clown hwn wedi awgrymu defnyddio gwasanaeth botwm coch i gael trosleisiau Cymraeg ar raglenni Saesneg, er mwyn ceisio arbed arian ar y Sianel Gymraeg. A’n helpo. A bellach, mae Menna Richards wedi rhoi swadan arall i S4C trwy gyhoeddi y bydd y BBC Cymru-Wales yn gwario 17% yn llai ar raglenni teledu Cymraeg bob blwyddyn. Rydyn ni eisoes yn gwybod na fydd mwy o Mosgito i bobl ifanc, bod cyfres ddogfen glodwiw O Flaen dy Lygaid wedi cael y fwyell yn ogystal â’r rhaglen newyddion i ddysgwyr, Yr Wythnos. Pwy fydd yn ei chael hi nesaf felly? Ein rhaglenni Newyddion nosweithiol? Troi Bethan Rhys Roberts a Vaughan Roderick allan o’r Senedd gyda rhaglen wleidyddol CF99? Chwynnu Pobol y Cwm? Os felly, dechreuwch trwy gael gwared ar Yvonne wirion fel ysbïwraig Garry Monk. Mi fyddai’n braf meddwl bod yr elw sylweddol o werthu cynhyrchion BBC Wales dramor – fel Doctor Who a Merlin – yn mynd i goffrau Llandaf yn lle Llundain, er mwyn cynhyrchu rhagor o raglenni cartref. Ond tocio fu hanes rhaglenni Saesneg BBC Wales i Gymru hefyd, o 824 awr yn 2005 i 696 awr erbyn heddiw. Gwnewch yn fawr o gyfres bry-ar-y-wal Snowdonia 1890 sy’n cychwyn nos Lun nesa, felly. Cyn hir, dim ond Wales Today efo Garry Owen, teithiau cerdded Derek Tywydd ac X-Ray efo Mr a Mrs Owen fydd arlwy’r di-Gymraeg dlawd. Ac ailddarllediadau lu o’r gyfres gomedi waethaf erioed, High Hopes…
Mae Pen Talar wedi bod yn destun chwerthin am y rhesymau anghywir yn ddiweddar. Tydi cyfranwyr sgyrsfan fywiog Maes-e – sy’n anodd eu plesio ar y gorau – heb eu hargyhoeddi’n llwyr, gan sylwi ar fanion fel soseri lloeren ar dai ym mhenodau’r 1960au, er enghraifft. Mae llawer o’m cyfoedion wedi cyfeirio at y cam-gastio yng ngolygfeydd Aber, pan oedd Defi (Richard Harrington) yn edrych mor hen â’i ddarlithwraig – ac yn edrych yn iau erbyn y bennod diweddar adeg Streic y Glowyr. Roedd llawer yn cytuno y byddai'n ddoethach defnyddio Sion Ifan am bennod arall. Er gwaetha’r mân frychau, mae safon yr actio a’r sinematograffi yn dal ei dir yn wyneb cryn gystadleuaeth gan fawrion y sianeli Saesneg, o David Tennant ar BBC1, David Morrisey ar Sky1 a drama gyfnod fawr ITV.