Torf Celtic Manor ym mochel
Na, sori, ymddiheuriadau. Dwi’n methu’n lan â malio bod trydydd digwyddiad chwaraeon mwyaf poblogaidd y byd wedi cyrraedd Cymru’r wythnos hon. Er gwaethaf holl ymdrechion y cyfryngau Cymreig, dwi ddim yn rhannu diddordeb Chris Corcorcan ac Eddie Butler ar BBC Wales, Rhodri Ogwen ar Radio Cymru na chyflwynwyr niferus Golffio: Cwpan Ryder. Mae’r ffaith bod tocynnau undydd yn costio dros ganpunt, mai hongliad o westy Strangeways-aidd
uwchlaw’r M4 yw cartre’r gystadleuaeth, a bod disgwyl i’r Americanwyr fopio efo Casnewydd, yn ychwanegu at fy nifaterwch. Mae Gemau’r Gymanwlad yn fater arall, felly gobeithio y clywn ni gymaint os nad mwy o hanes ein hathletwyr yn India - ar y podiwm medalau i gyfeiliant ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ hynny yw, nid cwynion am lety nad yw’n cyrraedd safon pum seren. Mi fyddai’n rheitiach i’r Saeson gau eu cegau hefyd, gan y bydd llygaid y byd ar drefniadau llety, cludiant a diogelwch Llundain fawr ymhen dwy flynedd.
Non Evans o'r Hendy - cyflwynydd a reslar tim Cymru yn Delhi
Ro’n i’n meddwl mai rhyw fath o gyrri oedd ‘Burpees’ pan glywais sylwebwyr 10 Jonathan yn yngan y gair dieithr hwnnw’n ddiweddar. O’r diwedd, gwnes ymdrech i wylio’r ornest wythnosol hon - rhyw fath o Fferm Ffactor i fabolgampwyr, gyda Jonathan Davies a Non Evans yn chwarae rhannau Dai Jones a Daloni Metcalfe. Ydy, mae hi mor wreiddiol â hynna. Nos Iau ddiwethaf, y merched oedd yn ceisio ymgiprys am le yn y rownd derfynol ar ynys Tenerife, trwy gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn ras feicio, neidio dros y clwydi ac ie - gwneud y burpees, rhyw gyfuniad od o gyrcydu, cicio a neidio. Roedd Ms Chwaraeon S4C, Sarra Elgan, yn gwneud ei gorau glas i ddangos diddordeb wrth hwpo’r meic dan drwynau’r cystadleuwyr chwyslyd, ac Alun Wyn Bevan yn hollol i’r gwrthwyneb gyda’i ymadroddion lliwgar fel “mae’n glawio golie” a “dim ’whare!” Ond dyna ni, mi fuasai’r cyn-sylwebydd rygbi a’r dewin geiriau ar dân dros tipitt hyd yn oed.
Un o ynysoedd Sbaen oedd cyrchfan rhaglen olaf Tocyn Penwythnos hefyd. Mam a’i mab ifanc o Bontypridd gafodd y fargen orau o blith holl westeion y gyfres, wrth bobi dan haul braf Palma, prifddinas Mallorca. Mi wnes wir fwynhau’r gyfres hon, ac roedd ambell ddinas yn fwy llwyddiannus na’r llall - cymharer ymateb brwdfrydig y cwpl o Fethesda i atyniadau Lerpwl ag wyneb tîn dau o Lanfrothen yn Glasgow. Yr unig fan gwan oedd y tueddiad saff o anfon Aled Sam i hel amgueddfeydd ac eglwysi cadeiriol, ac Alex Jones ar drip siopa. Beth am osod tasgau hollol newydd a gwahanol iddynt y tro nesaf - a chymryd y bydd yna dro nesaf, nawr bod un o’r cyflwynwyr wedi mudo i soffa gyfforddus The One Show.