Bwrw hen wragedd a ffyn (golff)

Dwi mewn perig o swnio fel gwleidydd, a thorri fy ngair. Ar ôl tynghedu’r wythnos diwethaf na fyddwn i’n cymryd dim sylw o’r digwyddiad mawr yn Celtic Manor… mi drois i wylio a gwrando ar y digwyddiad mawr yn Celtic Manor. Beiwch yr holl sylw a roddwyd i’r twrnamaint pedwar diwrnod. Doedd dim modd troi’r teledu neu’r radio ymlaen neu agor y papurau newydd heb weld hanes timoedd Monty a Corey Pavin. Ond bu bron i’r cyfan gael ei gofio am y rhesymau anghywir, wrth i’r cwrs £125 miliwn yn Nyffryn Gwy droi’n llyn hwyaid enfawr yng Nghwmrhydychwados. Ac roedd peryg i raglen uchafbwyntiau Cwpan Ryder 2010 ar S4C fod yn debycach i ragolygon tywydd estynedig. Os oedd Cymru yn dioddef o’r hen, hen ystrydeb fel gwlad y glaw, mae’r byd i gyd yn meddwl hynny nawr! Chwarae teg, mi wnaeth Gareth Roberts ei orau glas o gofio mai prin dwy awr o chwarae a gafwyd cyn iddi dywyllu nos Wener. Tra’r oedd Dewi Pws yn cadw reiat rownd y cwrs a Llinos Lee yn rhestru ystadegau, roedd Rhodri Ogwen fel petai’n cyflwyno’i raglen radio Blas ar y bocs wrth slochian siampen efo Max Boyce a Shane Williams a rhannu sgod a sglods efo’r tenor Rhys Meirion. Daeth ar draws rhagor o enwau cyfarwydd mewn sefyllfaoedd go anghyfarwydd - fel y cyn-chwaraewr rygbi Huw Harries yn gweithio ar stondin fferyllfa, a Gethin Jones yn rhinwedd ei swydd od fel Llysgennad y Celtic Manor. O leiaf dyna un ffordd o sicrhau suite iddo fo a Kath. A chafodd sgwrs a rownd sydyn efo Elfed Roberts, a ddywedodd bod y Cwpan Ryder yn defnyddio’r un cwmni pebyll â’r Brifwyl. ’Sgwn i a roddodd air o gyngor i Syr Terry Matthews ynglŷn â threfnu homar o ddigwyddiad ar dir lleidiog? Gyda llaw, gair bach o glod i adran graffeg y Sianel am greu logo arbennig o botio’r bel ar gefndir gwyrdd. A llongyfarchiadau iddynt am ennill y blaen ar raglen uchafbwyntiau BBC2 o ryw awr a hanner!

Dwi’n sgit am seremonïau agoriadol ac fe wnaeth India sioe wych ohoni, wrth i’r 19fed Gemau’r Gymanwlad agor yn swyddogol ddydd Sul. Fel arfer, roedd Huw Edwards a chriw’r BBC yno i ddarlledu’r sioe liwgar a oedd yn cynnwys tân gwyllt, gorymdaith fysus a cheir Ambassador, dawnswyr Bollywood ac arddangosfa ioga fawr. Ie. Pwy feddylia bod ioga mor ddiddorol? Tipyn mwy diddorol na chael Katherine Jenkins i ganu eto fyth yn seremoni agoriadol Cwpan Ryder.