Dweud ein dweud


Mwy o raglenni dychan a chomedi. Llai o’r un hen wynebau. Rhagor o gyfresi pobl ifanc. Cefnu ar clique Caerdydd. Mwy o raglenni o Dremeirchion ac Aberystwyth! Dyna rai o’r sylwadau amrywiol, call a dwl a gafwyd ar Noson Gwylwyr S4C wythnos diwethaf. Wrth i Alun Cairns, Cymdeithas yr Iaith a’r cyfryngis Cymraeg daflu baw ar ei gilydd, fe gawson ni gyfle i ddweud ein dweud mewn rhaglen fyw dan law Angharad Mair, sy’n prysur ddatblygu’n rhyw fath o Gwynfor Evans 2010. Ac fel pob rhaglen fyw gwerth ei halen, roedd yna broblemau difrifol gyda’r sain wrth i bobl ddweud eu dweud dros y ffôn. Problem arall oedd diffyg awyrgylch y cwtsh-dan-staer yng nghyntedd mawr sgleiniog Parc Tŷ Glas. Efallai y byddai cynulleidfa stiwdio ar lun Pawb a’i Farn wedi creu mwy o wmff i’r cyfan. Mewn datblygiad newydd a chyffrous ar gyfer y Sianel, fe barhaodd y drafodaeth ar y we am hanner awr arall wedi i’r darllediad teledu ddod i ben. A dyma feddwl am bosibiliadau diddiwedd gwefan S4C. Maen nhw eisoes wedi arloesi gyda gwasanaeth Clic, felly beth am ffilmio nosweithiau gwylwyr o neuadd pentref y wlad yn y dyfodol i’w dangos ar y we? A beth am annog gwylwyr i gyfrannu at y drafodaeth trwy anfon sylwadau ffôn-fideo? Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd o gyffrous.

O’r pedwar gwestai/cocyn hitio, Gaynor Davies, Golygydd Cynnwys Adloniant ddaeth drosodd orau. Roedd yn cyd-fynd yn llwyr â’r holl alwadau taer am raglenni dychan yn nhraddodiad Plu Chwithig a Pelydr X ers talwm, ac yn cydnabod ei bod yn gyfnod llwm o ran adloniant ysgafn Cymraeg. Diawch, mae angen llond boliad o chwerthin arnom ni’r dyddiau hyn. Er, dwi’n amau ai cyfres arall o Istan’bwl neu ddarlledu C’mon Midffild am yr hanner canfed tro yw’r ateb chwaith.

Tra’r oedd Gaynor Davies yn gadarn o blaid cynnal safon iaith cyflwynwyr rhaglenni plant a phobl ifanc yn arbennig, fel arloeswraig Hafoc ac Uned 5, roedd John Walter Jones yn awgrymu bod lle i fratiaith ar y Sianel fel un o ‘acenion’ niferus Cymru. Ac mi lwyddodd y Monwysyn i bechu’n waeth trwy chwerthin yn gwbl ddigywilydd wrth i un galwr ofyn am weld oedfa’r bore ar y Sul. Breuddwyd gwrach efallai, ond rhydd i bawb ei farn heb gael ei watwar gan Gadeirydd Awdurdod S4C - mewn cyfnod pan fo’r Sianel angen cymaint â phosibl o gefnogwyr.

A gobeithio y daw’r cefnogwyr yn llu i’r Rali fawr ym Mharc Cathays fore Sadwrn. Does dim esgus, beth bynnag, gyda miloedd ohonom ni yn y brifddinas ar gyfer gornest rygbi Awstralia, ar ben y miloedd o Bontcanniaid braf eu byd. Mi fuasai'n braf gweld rhai o wynebau cyfarwydd Prydain gyfan yno hefyd, yn cefnogi'r Sianel a roddodd gyfle iddyn nhw hogi'u crefft fel cyflwynwyr. Beth amdani Alex Jones, Gethin Jones, Sian Lloyd, Huw Edwards...?