
Ydy, mae sioe realiti soniarus S4C yn ôl am gyfres newydd, gyda phedwar côr o’r hen ardaloedd glo a llechi yn paratoi ar gyfer y rownd derfynol fawr yn Neuadd Dewi Sant ar 27 Tachwedd. Mae’r drefn yn debyg iawn i’r cyfresi blaenorol – llawer o gyflwyniadau cawslyd a la X Factor efo cerddoriaeth ddramatig a mwg cefndir, a llawer gormod o’r beirniad a’r maestro Owain Arwel Hughes yn gyrru o le i le yn ei BMW swanc. Y tro hwn, fodd bynnag, mae pedwar wyneb cyfarwydd yn helpu’r hen stejars fel Delyth Medi ac Eilir Owen Griffiths i arwain y gân… neu chwifio’u breichiau fel melinau gwynt afreolus. Toedd hi ddim yn ddechrau addawol iawn, gyda Donna Edwards yn stopio traffig y Maerdy i chwilio am gantorion, Stifyn Parri yn gofyn i’w fam am gymorth i recriwtio cantorion y Rhos, a Neil ‘Maffia’ Williams yn chwilio am sopranos ymhlith Côr Meibion y Penrhyn. Am ryw reswm, roeddwn i wedi disgwyl i Beti George fod yn fwy o giamstar nag yr oedd hi, fel cyflwynydd sawl Proms Cymru ar S4C ar hyd y blynyddoedd. Ond dyna ni, tydi Siân Lloyd ddim yn broffwyd tywydd tan gamp chwaith nac ydi. A chyda tharged o 150 o aelodau, roedd y niferoedd a ddaeth i’r ymarfer cyntaf mor siomedig â thorf gêm Sgorio bnawn Sadwrn. Yn wir, côr di-Gymraeg y Rhondda lwyddodd i ddenu’r diddordeb mwyaf, a Chymry Cymraeg Dyffryn Ogwen oedd y gwannaf. Adlais o gefnogaeth y Cymry mamiaith at S4C yn gyffredinol efallai?
Mae yna gryn edrych ymlaen at sioe realiti BBC One Wales dros yr wythnos hon a’r nesaf hefyd. Roedd The Making of Snowdonia 1890 yn cynnig blas o’r hyn sydd i ddod, rhwng mamau’n dysgu sut i ymdopi heb beiriant golchi dillad, merch lysieuol yn gwingo o feddwl am ladd iâr i swper, a’r dynion yn cael cip ar wyna a hollti llechi. Hyn oll yng nghanol eira mawr mis Mawrth. Gwych!