Mewn cytgord?





OMG! OMA

Mae’r hysbysebion wedi llenwi’n sgriniau ers wythnosau bellach. Na, nid y seli soffa na syrcas Nadoligaidd yr archfarchnadoedd. Sôn ydw i am beiriant cyhoeddusrwydd S4C ar gyfer tair rhaglen Only Men Aloud (Boomerang) ar nos Iau, gan gynnwys hys-bys sylweddol ar ITV Wales. Roedd eu gweld yn sefyll yn ddramatig â’u breichiau ymhleth o flaen Canolfan y Mileniwm wrth i’r camera dremio o un pen i’r llall yn dwyn i gof deitlau agoriadol Little Britain. Roedd y rhaglen gyntaf yn dipyn o sioe, fel y gallech ddisgwyl, a Chanolfan y Mileniwm dan ei sang i weld yr hogia siwtiog yn symud yn slic wrth gyflwyno stamp arbennig Tim Rhys-Evans o’r hen glasuron. Nid bod hynny at ddant pawb chwaith, gan gynnwys hen begor traddodiadol fel fi. Chlywais i erioed mo fersiwn ddi-fflach o ‘Calon Lân’ yn fy myw, ac roedd gwylio’u cân actol feddw o ‘Wrth fynd efo Deio i Dywyn’ braidd yn chwithig. A phwy gythraul ddewisodd gân mor fflat i Max Boyce?

Ond pwy ydw i i ladd ar un o lwyddiannau digamsiynol Steddfod Glynebwy eleni, a ffefrynnau mawr ymhlith y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd - sy’n siŵr o hyrddio ffigyrau gwylio’r Sianel i’r gofod?

Hywel a Llyr Morgan
Rydyn ni Gymry’n hoff o hel angladdau. Rhywbeth ynglŷn â’n natur gynhenid brudd, debyg. Ar ôl sawl ymweliad â’r fynwent yn Pen Talar dros y naw wythnos diwethaf, agorodd drama newydd nos Sul wrth garreg fedd rhywun. Roedd y ddamwain car dramatig ar ddiwedd y gyfres ddiwethaf yn awgrymu y byddai aelod o gast Teulu yn absennol o hon. Ond lle byddai sawl cyfres ddrama arall wedi’n gadael ar binnau am sawl golygfa - fel dangos y matriarch Margaret Morgan yn galaru dros naill ai ei gŵr neu’i mab - fe ddifethwyd y dirgelwch o’r eiliadau cyntaf wrth inni weld Hywel Morgan yn gosod torch o flodau ar bridd ei dad-nad-oedd-yn-dad-go-iawn-iddo. Ac yn nhraddodiad gorau’r saga deuluol, fe gawsom ein taflu’n syth i ganol berw gwyllt o gecru a gweiddi, slochian gwin drud a swpera trychinebus ym Mryncelyn yng nghwmni cymeriadau Dallas ger y Lli. Mae tafod Llŷr - y brawd sy’n mynnu fod y byd a’i gyn-wraig yn ei erbyn - mor finiog ag erioed, nes eich bod yn dyheu am weld rhywun yn stwffio’i het gowboi ’lawr ei gorn gwddf. Anghofiwch am gyfarfodydd hirwyntog i benodi nyrs newydd - prif gymeriad ac atyniad y gyfres yw’r lleoliad bendigedig, gyda gwesty’r Harbwrfeistr, sori, Pen-y-cei, yn arglwyddiaethu ar harbwr y dref. Ac mae ’na lot, lot mwy i ddod, pan ddatgelodd Meic Povey mewn cyfweliad radio gyda Dewi Llwyd ei fod wrthi’n sgriptio’r bedwaredd gyfres ar hyn o bryd. Ydy, mae’r saga doctors a nyrsys rhyfeddol o boblogaidd yn debyg o bara am sbel eto.
A phwy yffach ydw i i ddadlau efo’r ffigyrau gwylio?


JR a Bobby Ewing