Mae'r donfedd yn gliriach...


O’r diwedd, mae’r sŵn clecian a chrensian aflafar y cloc radio wrth erchwyn y gwely yn perthyn i’r gorffennol. Dwi wedi buddsoddi mewn sét ddigidol. Bellach, mae’n bleser deffro i sŵn clir fel cloch gyda’r larwm. Gallwn ddewis o blith BBC Parliament, Gold South Wales, Planet Rock neu UCB Christian Radio - ond dwi fel arfer yn deyrngar i Nicky Campbell a’r gyflwynwraig â’r enw lleiaf rhywiol, y gr’aduras Shelagh Fogarty, ar 5 Live Breakfast neu griw’r Post Cyntaf. A rhwng chwerthin Garry Owen, Nia ‘Ffarmwrs’ Thomas yn torri cyfweliad yn ei flas oherwydd prinder amser ac acen robotaidd Glantaf rhai o’r darlledwyr, does dim peryg i mi bendwmpian am ddeg munud arall. Mae’n well gen i newyddion mwy hamddenol gyda Rhodri Llywelyn a Gwenllian Grigg ar foreau Sadwrn, rhywsut. Beth bynnag, mae defnydd y gohebwyr o fratiaith yn newyddion drwg i’m mhwysau gwaed ben bore, gyda’u “ffocws”, “bas-data”, “sgiliedig” a “delifro”, heb sôn am jargons fel “tryloywder” ac ati. Ych a fi. Awgrym arall o gyfieithu diog a slafaidd ddatganiadau i’r wasg Saesneg y Cynulliad neu wefan BBC News.

Nid bod peryg iddyn nhw gyfieithu deunyddiau newyddion 6 a 10 BBC One chwaith, gyda chyn lleied o sylw i ninnau ar y cyrion Celtaidd. Cymrwch ddiwrnod cyllideb y llywodraethau datganoledig wythnos diwethaf er enghraifft. Tra chafwyd darllediad deg munud yn fyw o Senedd Holyrood Caeredin, eiliadau o ddatganiad gan y Gweinidog Busnes a’r Gyllideb, Jane Hutt, a gawsom o Fae Caerdydd. Ar ôl canrifoedd o gael ein grwpio fel England-and-Wales bondibethma, mae’n ymddangos ein bod ni wedi’n cwmpasu dan faner Scotland-and-Wales heddiw. O leiaf mae’r BBC yn cofio amdanom ni. Yr unig sylw a gawsom ar newyddion ITV a Sky oedd diolch i ddyweddïad Cêt a Mr Wales…

Mae arlwy hwyrol C2 yn dechrau ennill ei blwyf gyda chymysgedd o gyflwynwyr hen a newydd, ac mae’r ymateb cyffredinol yn ffafriol iawn. Gallwch gychwyn a gorffen yr wythnos gyda giang Bandit gynt – Huw Stephens ar nos Lun a Huw Evans ar nos Wener – a lolian Daniel Glyn a “llond beudy” o hwyl Ifan Jones Evans yn y canol.

Ac o’u blaenau rhwng 8 a 10pm, mae’r hyfryd Lisa Gwilym â’r llais melfedaidd sydd wastad yn helpu i liniaru’r siwrnai hir rhwng y Gogledd a’r De ar brynhawniau Sul. Mae’r rhaglenni nosweithiol yn debyg iawn i batrwm y Sul, gyda chymysgedd o ganeuon gwych (gyda phwyslais ar Sibrydion a’r Super Furries, ffefryn amlwg y gyflwynwraig), gwesteion difyr a chaneuon o’r gorffennol ar y diwrnod arbennig hwnnw. A diolch iddi am ddisodli’r mwydryn o ’Stiniog. Does dim hanner cymaint o sŵn clecian annifyr cyn mynd i noswylio bellach.