Cyflwynwyr oddi cartref


Mae ’na fynd mawr ar docynnau airmiles S4C y dyddiau hyn, gyda chyflwynwyr yn cael eu hanfon i bedwar ban – a Sir Fôn. Tra bod Dai Jones yn cael ei blagio gan fosgitos ar wastadeddau ffrwythlon diflas Manitoba, Canada, mewn dau rifyn arbennig o Cefn Gwlad, mae’r garddwr Russell Jones wrthi’n crwydro Kenya a Tanzania ar gyfer Byw yn y Byd a ddarlledir fis nesaf. Y Fam Ynys oedd cyrchfan Aled Sam yn rhaglen gyntaf 100 Lle, sy’n seiliedig ar Lyfr y Flwyddyn 2010 gan Marian Delyth… a John Davies Bwlch-llan. A bydd Archesgob Cymru’n codi pac i Roma tra bod Naturiaethwr Cymru yn cwrdd ag Indiaid Cochion Gogledd America. Braf eu byd. Pwy soniodd am wasgfa ariannol S4C?

Nos Sul, cychwynnodd cyfres newydd Ôl Traed Gerallt Gymro (Cynhyrchiad Element), clerigwr ac awdur enwog o’r 12fed ganrif a oedd bron â thorri’i fol eisiau swydd y cyflwynydd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru heddiw. Nid hanes ei daith a’i ddisgrifiad enwog o’r werin yn Descriptio Kambriae sydd yma, fel yr oeddwn wedi’i obeithio, ond ei ymgyrch aflwyddiannus i sicrhau statws arbennig i Dyddewi fel cartref Archesgob Cymru. Roedd Dr Morgan, gwladgarwr amlwg arall, yn gyflwynydd hawddgar dros ben â chwerthin iach. Gwenu fel giât fuaswn innau hefyd, petawn i’n ffilmio mewn llefydd mor odidog â chastell glan môr Maenorbŷr, Sir Benfro. Mae gwefan S4C yn honni mai un o uchafbwyntiau’r rhaglen oedd ei gyfweliad â’r Rowan Williams, Archesgob Caer-gaint. Yn bersonol, roedd hi’n well gen i’r holl dynnu coes a’r naws agos-atoch rhwng Barry Morgan a Wyn Evans, esgobion presennol Llandaf a Thyddewi.

Mae’n siwr y bydd Iolo ac Indiaid America (Indus Films) yn denu mwy o wylwyr bob nos Fercher, gyda phortread o frodorion gwreiddiol, bregus, Gogledd America yn y byd modern. Yr eironi yw bod yr Indiaid yn ymddwyn fel cowbois bellach, wrth inni weld ffermwyr yn llosgnodi a ’sbaddu lloi ar ransh Pete Standing Alone yn Alberta, Canada; ac ymweld â sioe rodeo a rasys ceffylau dros y ffin ym Montana. Deallom fod iaith leiafrifol llwyth y ‘Blackfoot’ ar farw, a bod y brodorion yn dioddef llwyth o broblemau cymdeithasol. Yn anffodus, ni chawsom unrhyw ffigurau pendant o siaradwyr iaith Siksiká heddiw, ac awgrym yn unig o’r problemau cymdeithasol mewn golygfa fer pan sgwrsiodd Iolo â thri meddwyn ar gornel stryd. A dyna’r broblem - gorgyffredinoli. Mae Iolo Williams yn gyflwynydd clir a chroyw, ond a oes wir angen iddo grynhoi ei feddyliau ar ôl holi pob Indiad?

Ond yr isdeitlau Cymraeg ar y sgrîn oedd waethaf, gyda gwallau fel “400 can mlynedd yn ôl” ac erchylltra fel “Roedd ganom barch ar sgil y cowboi”. Beth oedd diben mynd mor bell i greu rhaglen wedi’i ffilmio’n wych, cyn gwneud smonach o bethau mewn stafell ôl-gynhyrchu ’nôl adref yng Nghymru?