Dim cydymdeimlad



Ydych chi’n gwylio Eastenders? Digon teg, pawb at y peth ac ati. Ond mae mwynhau ei gwylio yn fater arall. Dewch, dewch - dyma gyfres sy’n disgwyl inni falio a chredu mewn gwragedd sy’n claddu gŵyr anffyddlon yn fyw mewn coedwig, dynion yn gaeth i grac cocên dros nos cyn dychwelyd i redeg garej mewn mis, putain o ferch ysgol, ac Ian Beale yn lapswchan efo’r flonden smart o Dempsey & Makepeace ers talwm.

Fe drefnodd y storïwyr ddwy enedigaeth fel rhan o ‘ddathliadau’ nos Galan Albert Square. Newyddion da o lawenydd mawr fel arfer, ond cafodd pethau eu troi ben i waered gydag arddeliad aflan ym myd tywyll y Mockneys. Ar ôl i’w baban newydd-anedig farw yn y crud, fe sleifiodd mam yn ei gwewyr i’r Queen Vic a chyfnewid baban holliach, gan adael perchnogion y dafarn i alaru dros blentyn rhywun arall. Am gychwyn erchyll i 2011, a stori ych-a-fi arall gan sioe sebon sy’n enwog am ymdrybaeddu ym maw isa’r afon Tafwys. A diawch, mae’r cynhyrchwyr wedi codi clamp o nyth cacwn, gan ddenu bron i 10,000 o gwynion – y nifer fwyaf erioed yn hanes y gyfres 26 mlwydd oed. Ac mae elusennau a gwefan fel Mumsnet yn gandryll gyda’r portread o’r fam orffwyll mewn profedigaeth.

Mae’n calonnau ni’n gwaedu dros rieni dan y fath amgylchiadau. Gallai Eastenders fod wedi creu stori hynod o sensitif, fel Pobol y Cwm ddeunaw mlynedd yn ôl pan gollodd y Reesiaid un o’u gefeilliaid. Rwy’n dal i glywed wylofain torcalonnus Eileen hyd heddiw, ac mae’r cyfeiriadau achlysurol at John bach yn dangos bod y cof yn fyw ac yn dal i frifo. Yn hytrach, dewisodd cyfres BBC1 droi’r cyfan yn dipyn o bantomeim mewn ymgais i ennill brwydr y gwylwyr ddechrau’r flwyddyn.

Problem fawr arall Eastenders yw’r cymeriadau. Does dim taten o ots gen i am griw o odinebwyr, lladron a llofruddion. Yn anffodus, mae Teulu bron ag ennyn yr un ymateb. Fe gawsom ni’n siâr o bitshio a chicio a brathu - heb sôn am y merched - yn y gyfres bresennol a ddaeth i ben nos Sul. A hyd yn oed pan ddylwn i gydymdeimlo gyda chymeriadau fel Catrin Morgan yn ei brwydr yn erbyn cancr y fron, mi aeth yn angof braidd yng nghanol yr holl gecru ailadroddus. Mae’n drueni bod y cymeriadau mwyaf diddorol fel Myra (Beth Robert), Eirlys (Eiry Thomas) a’r anweledig Dot (Gaynor Morgan Rees) ar y cyrion braidd. Efallai fod y ffyddloniaid wedi ’laru hefyd, gyda’r 73,000 a drodd i wylio’r bennod gyntaf ar 14 Tachwedd wedi gostwng i 54,000 erbyn 19 Rhagfyr yn ôl gwefan S4C. Ond diawch, fe gawson ni ddiweddglo hapus rhwng genedigaeth a phriodas, a chadoediad (byr?) rhwng Llŷr a Hywel Morgan a hyd yn oed Dr John.

Beth bynnag yw'r gwendidau, mae’r prif gymeriad - harbwr a haul Aberaeron - yn dal i ddenu yng nghanol felan y gaeaf.