Spiral III

Meddyliwch am dditectif Ffrengig, a phwy sy’n dod i’r cof? L’Inspecteur Gadget? Clouseau? Calliwch. A ga’i gyflwyno Capitaine de Police Laure Berthaud i chi, un o brif gymeriadau cyfres dditectif ragorol Spiral (Engrenages), sy’n dychwelyd am drydedd gyfres ar BBC Four nos Sadwrn nesaf. Yn debyg i fersiwn Ffrengig o Sarah Lund, dyma ddynes galed, ddi-lol, sy’n defnyddio dulliau anghonfensiynol braidd wrth daclo dihirod is-fyd Paris, ac sy’n benderfynol o lwyddo yn ei bywyd proffesiynol ar draul ei bywyd carwriaethol. A chyda hi wedyn, mae Now a Ned – Is-gapten Gilles “Gillou” Escoffier sy’n dipyn o rebel fel ei fos, a’r Is-gapten Frédéric "Tintin" Fromentin sy’n gwneud ei orau glas i gadw’r ddau arall ar y llwybr cul… heb fawr o lwc.


A draw yn y Palais De Justice, mae’r Dirprwy-erlynydd Pierre Clément yn mynd benben â’i fos, un o wleidyddion llwgr y ddinas; a’r gyfreithwraig uchelgeisiol a’r über-ast bengoch Joséphine Karlsson yn llwyddo i bechu pawb trwy amddiffyn y drwgweithredwyr - a phechu Laure Berthaud trwy ddod rhyngddi hi â’r pishyn Pierre bob gafael. O wragedd tŷ cefnog sy’n drewi o steil i’r Algeriaid ym mlociau fflatiau dienaid y maestrefi, mae gan bawb rhywbeth i’w guddio… a neb yn fwy na’r heddweision a’r twrneiod uchod.




Pierre et Josephine yn "oh la la-pwschan"!


Yn y bennod gyntaf, mae Capten Laure Barthaud yn amau bod ganddi achos o lofruddiaeth niferus ar ei phlât ar ôl darganfod merch ifanc wedi’i llarpio ar reilffordd yng ngogledd Paris… Jest y peth i’r sawl ohonom sy’n awchu am ddos o safon Ewropeaidd ers inni ffarwelio a Forbydelsen. C’est formidable!


Spiral / BBC Four / Nos Sadwrn 9.00 - 9.50pm / 2 Ebrill

Pobol y Toon



Tra bo’r Saeson yn ymweld â Chwmderi (neu “Pobble er Cum”, chwadal Dan Walker), bydd rhai o drigolion Cwmderi yn mynd i Wlad y Saeson yr wythnos hon. Na, nid Sir Fynwy ond Tyne & Wear. Ar ôl clywed bod ewythr y Monks – sy’n dad i Garry mewn gwirionedd – ar ei wely angau, mae Britt yn penderfynu llusgo’r teulu i Newcastle a Whitley Bay, sy’n llawn Cymry Cymraeg am ryw reswm anesboniadwy i bawb ond sgwennwrs sebon. Wel, dyma fro’r Gododdin yn yr Hen Ogledd wedi’r cwbl. Ond pam o! pam fod y cynhyrchwyr yn mynnu troi’r Monks yn ailbobiad Cymraeg o’r Mitchells Eastenders? Dyna ddaeth i’r meddwl wythnos diwethaf, wrth i Garry yngan rhywbeth tebyg i “Monks y’n ni. Ni’n sbeshal”.


Dwi’n hanner disgwyl i Britt sgrechian “Gerrourra maaaaaaah chippyyyyyyyyy!” cyn hir.

Lis a Chymru



Ydy, mae eicon arall o Oes Aur Hollywood wedi’n gadael ni, a’r cyfryngau wedi bod yn canu mawl iddi drwy’r wythnos. Ac fel arfer, fe drodd gohebwyr Newyddion, Wales Today a Wales Tonight eu golygon tua phentref Pont-rhyd-y-fen ger Port Talbot, er mwyn cael ymateb ei chyn-deulu-yng-nghyfraith. Ac er gwaetha’i dymuniad personol gwreiddiol mai ym mro ei chyn-wr yr hoffai gael ei chladdu - er mai ar lan Llyn Genefa y mae ei fedd yntau - mae hi bellach dan bridd Forest Lawn Memorial Park, LA, nepell o’i chyfaill Michael Jackson.

Mae’n amlwg fod bro Burton wedi gadael cryn dipyn o argraff iddi. Clywais unwaith ei bod wedi’i swyno hefo cân serch ‘Ar lan y môr’. Ym 1972, daeth i Abergwaun i actio mewn
fersiwn ffilm arbennig o Under Milk Wood gyda Richard Burton a Peter O’ Toole - a llu o actorion Cymraeg fel Ryan Davies, Siân Phillips, Dillwyn Owen (Jacob Ellis Pobol y Cwm), Rachel Thomas ac Olwen Rees. Mae’n siŵr fod tafarnau Bro Gwaun yn sych grimp. A dim ond y llynedd y cyflwynodd penddelw arbennig o’i chyn-wr i ddathlu 60 mlwyddiant Coleg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.

Dyma
bwt o gyfweliad diddorol o 1988 - gyda llaw, neidiwch i 5.18 munud i glywed ei theyrnged annwyl i’w gwlad fabwysiedig.

Merched yn bennaf


Mae’n syndod beth ydi blaenoriaeth golygyddion newyddion teledu'r dyddiau hyn. Nos Sadwrn roeddwn i’n pendilio rhwng un sianel a’r llall er mwyn cael y diweddaraf o’r Dwyrain Canol cythryblus. Ar un llaw, roedd penawdau ‘newydd dorri’ Sky News yn sgrechian fod Arlywydd Sarkozy wedi penderfynu chwarae sowldiwrs hefo Gaddafi ochr yn ochr â’r newydd “egsliwsif” am John Terry yn ailennill capteiniaeth tîm pêl-droed y Saeson. Draw ar Wales Today, roedd Tomos Dafydd yn defnyddio’i ’stumiau gorddramatig gorau wrth gyhoeddi nad oedd Shaun Edwards, hyfforddwr amddiffyn Cymru, wedi ymuno â gweddill y garfan ym Mharis. Ar sail y ffasiwn Stâd du France, y fo oedd gallaf. Ac ar brif newyddion BBC Prydain wedyn, cefais deja-vu o’r wythdegau o weld Julia Somerville wrth y llyw unwaith eto. Y Gorfforaeth yn ceisio gwneud iawn am golli achos o wahaniaethu ar sail oed gan Miriam O’Reilly, cyn-gyflwynydd Countryfile, efallai? Does dim gwirionedd yn y si fod Selina Scott am ddisodli Alex Ni ar soffa One Show chwaith.

Cafodd ffermwraig o Raeadr Gwy ddwy raglen gyfan iddi’i hun ar Cefn Gwlad. Roedd Siân Evans o Lwyncwtta yn fwrlwm byw o fenyw rhwng popeth – magu teulu ac 11,500 o ieir mewn sied uwchdechnolegol (yr ieir, nid y plantos), arwain ymddiriedolaeth i warchod marchnad anifeiliaid y dref, a hybu’r Gymraeg yng nghanol môr o Saesneg yn yr ysgol gynradd. Chafwyd ’run smic gan Evan ei gŵr (di-Gymraeg?) chwaith. Mae’n amlwg pwy sy’n gwisgo’r trowsus oel yn eu tŷ nhw.

Os oedd Siân Evans yn gwneud i mi deimlo rêl diogyn, mae Lowri Morgan yn codi cywilydd ar f’ymdrechion rhechlyd yn y gampfa wrth iddi redeg i gopa’r Wyddfa ddwywaith mewn diwrnod er mwyn paratoi ar gyfer Ras yn erbyn amser (bob nos Iau, 8.25pm) yn yr Arctig. Er y cyfuniad effeithiol o ddyddiadur fideo ac awyrluniau dramatig ohoni’n ymarfer yn Eryri a Norwy, buasai ymateb gan ffrindiau a pherthnasau wedi ychwanegu elfen arall i’r gyfres yn hytrach na chlywed ochr Lowri o bethau’n unig. Gyda llaw, mae teitl y gyfres yn mynd dan fy nghroen i. Beth sy’n bod gyda ‘ras yn erbyn y cloc’ yn lle’r cyfieithiad slafaidd o’r Saesneg? A ‘her’ yn lle ‘sialens’ byth a hefyd?





Ond dynes yr eiliad, heb os, yw Sofie Gråbøl o Ddenmarc sy’n portreadu’r Ditectif Sarah Lund yng nghyfres ddrama ragorol BBC Four, The Killing (Forbrydelsen). Wedi naw wythnos o gnoi ewinedd i’r bôn wrth ddilyn troeon annisgwyl ymchwiliad i lofruddiaeth merch ifanc, gan amau pawb o’i thad i’w hathro ysgol i Faer Copenhagen, a gweiddi bob tro’r oedd Lund yn mentro i ryw warws tywyll arall ar ei phen ei hun- heb fflachlamp na gwn wrth gwrs - daw’r cyfan i ben nos Sadwrn. A’r newyddion gwych yw bod y BBC wedi prynu’r ail gyfres, sy’n sicrhau y bydd Sarah Lund a’i siwmperi gwlân enwog o Ynysoedd Faröe, yn ôl cyn diwedd y flwyddyn.

Newid yn chênj


Mwy o rygbi. Rhaglenni plant o amser brecwast tan swper, a ta-ta Wedi 3. Ailddarlledu Pobol y Cwm am 10 yr hwyr ar ôl y dangosiad cyntaf arferol am 8. A phwyslais ar ddysgwyr, crefydd a diwylliant ar y Sul. Dyna rai o brif bwyntiau’r strategaeth ar ddyfodol S4C a gafodd gymaint o groeso gan gynhyrchwyr teledu annibynnol â Chyrnol Gaddafi rownd bwrdd y Cenhedloedd Unedig. “Colli cyfle” oedd cri’r cyfryngis. “Pa gyfle?” meddwn i.

Does yna ddim byd syfrdanol o gyffrous na dramatig yn strategaeth y Sianel, hyd y gwela’ i. Mae’n hysbys eisoes mai rygbi, rygbi a rygbi yw mantra Parc Tŷ Glas. Ac er cystal a phoblogaidd yw gwasanaeth Cyw (a Stwnsh am wn i), mae gwir angen canolbwyntio ar yr arddegau a chreu cyfres ddrama i ategu Rownd a Rownd. Gyda chastiau criw Cwmderi ar frig siart gwylwyr S4C, gan hawlio’r pump uchaf yn rheolaidd, does ryfedd fel y penaethiaid yn awyddus i’w hailddarlledu gydag isdeitlau am ben omnibws y Sul. Ond ddwywaith yr un noson? “Yffach gols”, chwadal Mrs Mac ers talwm. Os rhywbeth, byddai’n well gan lawer o’m cyfoedion petai Pobol y Cwm yn dychwelyd i hen slot poblogaidd 7 o’r gloch. Alla i ddim ymateb i dranc posibl Wedi 3 - y tro diwethaf gwelais i’r rhaglen roedd Elinor Jones yn pendwmpian ar y soffa a Felix Aubel yn trafod hen greiriau. A na, nid Bill Hughes ac Eric Howells oedden nhw. Mae’n amlwg ei bod yn bwysig i 355 o ffans Facebook sydd wedi ymuno â thudalen “Achub Wedi Tri” er mwyn diogelu “rhan mor bwysig o'r sianel ac o fywyd a diwylliant Cymru… yn rhoi sylw i bob agwedd o fywyd bob dydd ac yn adnodd pwysig i rai sydd adref yn y prynhawn”. "Adnodd?!". Ych-a-fi. Mae'n amlwg fod rhywun wedi llyncu Jargoniadur y Cynulliad Cenedlaethol. Ac am fwriad y Sianel i droi’r Sul yn gonglfaen “crefydd a diwylliant”, beth ar y ddaear oedd cyfres ddogfen Y Daith a Gwlad Beirdd felly, heb sôn am yr hen-hen-hen stejar Dechrau Canu?

Nid problem unigryw i S4C mohoni chwaith. Mae’n bosibl y bydd BBC2 yn lluchio’i rhaglenni dyddiol i’r bin er mwyn arbed costau, a dangos bwletinau di-dor BBC News tan 7 yr hwyr. Does dim sôn am dudalen “Achub Diagnosis Murder ac Antiques Road Trip” ar Facebook hyd yma.

Mae pethau’n edrych ychydig yn well yn y tymor byr. Er bod “comedi Cymraeg” yn air hyll ers noson Gŵyl Ddewi, bydd y Sianel mewn dwylo diogel nos Wener nesaf gyda Tudur Owen o’r Doc yng nghwmni Vaughan Roderick a Siân Lloyd. Ac mae hysbysebion Porthpenwaig, y gyfres ddrama newydd o Ben Llŷn, yn edrych yn bur addawol.

Cân i Israel



Llongyfarchiadau i Tesni, hanner Brigyn ac Iesu Grist Abertawe ar eu buddugoliaeth ddiweddar mewn sied ym Mhontrhydfendigaid. Neis iawn, lyfli, a dau o’r panel dethol, Cleif Harpwood a Siên Jêms yn canmol y gân anthemig. Ond am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, wnes i ddim trafferthu. Wn i ddim pam chwaith. Roeddwn i’n barod amdani hefyd, ac fe barish i am y deg munud cyntaf. Roedd Elin “Wedi Dyweddïo” Fflur yn edrych yn wych ac yn cael hwyl dda iawn ar gyflwyno ar ei phen ei hun, tra’r oedd Daf Du yn edrych fel mochyn daear yn syllu i fyw baril gwn ffarmwr o Grymych. Ond ar ôl i’r gân gyntaf gychwyn, roeddwn i wedi diflasu. Familiary breeds… efallai, chwadal y Sais. Neu “gynefindra a fag ddirmyg”, chwadal Briws. Dim ond drannoeth yn y swyddfa, deallais ’mod i wedi colli perfformiad comedi’r noson wrth i Rhydian fwrdro 'Yma o Hyd' adeg hanner amser. Ta waeth, pob lwc i Tesni yn y ’steddfod dafarn, sori, Gŵyl Ban Geltaidd Corca Dhuibhne/Penrhyn Dingle rhwng 26 Ebrill ac 1 Mai.

Llawer difyrrach ydi’r newydd am ddarpar gystadleuwyr Eisteddfod Bop Ewrop yn Dusseldorf ar 14 Mai. Anghofiwch am hasbîns Prydain a Jedward ar ran Iwerddon druan. Ylwch pwy sy’n cynrychioli’r Israeliaid unwaith eto. Campus!

.cach


Roedd pethau’n edrych mor, mor addawol hydref diwethaf. Ar Noson Gwylwyr S4C, cafwyd addewid gan Gaynor Davies, Golygydd Adloniant Ysgafn, am fwy o gomedi a chwerthin yn y Gymraeg. Popeth yn dda felly. Roedd comisiynwyr Parc Tŷ Glas o’r diwedd yn gwrando ar ddymuniadau’r gwylwyr. Ac roedd y gwylwyr yn barod i brotestio tros Sianel Gymraeg annibynnol. Gwrthododd ambell gyfryngi dalu trwydded y Gorfforaeth Ddarlledu, a dychwelodd tri hen stejars Cymdeithas yr Iaith i frig mast teledu. Roedd yna deimlad cyffredinol bod S4C yn haeddu ein cri a’n cefnogaeth. Ac yna fe gawson ni .cym noson Gŵyl Ddewi.

“Gêm banel newydd sbon sy’n sicr o godi gwên wrth i ni dynnu coes a dychanu pethau sy'n ddigon od am Gymru a'r Cymry” oedd broliant S4C. Ac wedi awr a hanner o ddosbarthu taflenni Ie dros Gymru i drigolion amheugar Merthyr, roeddwn i’n barod am rywfaint o ysgafnder. Traed i fyny a joch o Benderyn felly (sori, Dewi Ddyfrwr!). Deg munud yn diweddarach, roeddwn i’n gwingo ac yn clecian y wisgi. Oedd roedd S4C wedi cyflawni’r amhosibl trwy blymio i iselfannau uffernol Tipit.

Cawsom wahoddiad gan y cwisfeistr a’r cyn-sylwebydd pêl-droed Ian Gwyn Hughes, i ymuno â phanelwyr enwog a doniol fel Donna Edwards, Tony Llywelyn a’r gomedïwraig Eirlys Bellin. A Glyn Wise. Roedd y rowndiau gwahanol yn cynnwys dyfalu pwy oedd cefnder Matthew Patagonia Rhys, dewis nawddsant newydd i Gymru, a bathu fersiynau Cymraeg o “quiche”, “dogging” a “rampant rabbit”. Holwch hen fodryb Dilys am ystyr yr olaf. Ac yn eu plith, roedd y perfformwraig ddrag Tina Sparkle yn rhoi help llaw fel sgorfeistres. Neu’n chwerthin am ben ei jôcs tila ei hun, hogi’i hewinedd, chwarae hefo’i gliniadur a thecstio yn y cefndir (am dacsi i Minskys efallai, cyn i’w gyrfa fynd i’r gwellt am byth?). Hyn oll i gyfeiliant clapio a chwerthin ar dâp mewn rhyw ogof dywyll o stiwdio. Aeth yr ias mwyaf dychrynllyd drwyddof pan orffennodd Ian Gwyn Hughes gyda “tan tro nesaf!”.

Mae’n anodd credu bod hon yn hanu o’r un stabl â Y Diwrnod Mawr (Teledu Ceidiog Cyf), cyfres ddogfen wreiddiol a deallus i blant meithrin sydd wedi ennill clod a bri ac enwebiadau am wobrau BAFTA plant Prydain, Rose D’Or a’r Royal Television Society.

Cefais lawer mwy o flas ar Rhod Gilbert’s Work Experience, a ddychwelodd am ail gyfres yr wythnos hon, wrth i’r comedïwr llwyddiannus o Gaerfyrddin dorchi llewys ar fuarth fferm, lladd-dy a’r mart yn ei dref enedigol. O! na fyddai’n gallu siarad Cymraeg. Ac eto, gwastraffu’i ddoniau ar sioe banel bathetig S4C fyddai, berig.





Rhod Gilbert’s Work Experience, BBC1 Wales, nos Lun 10.35pm

Rhod Gilbert Show, Radio Wales, dydd Sadwrn 11.ooam