Beth sy’n digwydd i actor di-waith? Pwdu, ymddangos ar raglen realiti efo Dudley neu ‘Big Brother on Ice’, byw ar enillion hael Pobol y Cwm tan i’r cyfri banc sychu’n grimp fel un Portiwgal? Yr arferiad diweddar ydi arallgyfeirio i fyd cyflwyno. Bu’r actores gomedi Caroline Quentin, sydd bellach yn fwy enwog am hyrwyddo prydau parod drud, yn crwydro’r India ar ITV. A chefais fodd i fyw yn ddiweddar wrth ddigwydd taro ar Michael Palin yn ymweld â ffarm grocodeils yn Awstralia ac yn chwerthin am ben neidwyr bynji hanner-pan yn Seland Newydd, mewn ailddarllediad o gyfres bymtheg mlwydd oed ar ryw sianel ddigidol. Dwi wrth fy modd hefo cyfresi o’r fath. A bellach, mae’r dyn y tu ôl i gymeriadau cofiadwy Con Passionate a Gavin and Stacey, a hyd yn oed aelod o dîm Criced S4C y llynedd, yn olrhain allforion o Gymru i bedwar ban byd. Tybed a fydd yn cyfeirio at chwaraewyr gorau’r Gweilch yn codi pac i borfeydd brasach Ffrainc?
O Gymru Fach ydi’r rhaglen, a Steffan Rhodri yw’r cyflwynydd, fel y’n hatgoffodd ni gyda “Steffan Rhodri ydw i…” - un o allforion teledu America sy’n gwneud i mi wingo bob tro y’i clywaf mewn rhaglen ddogfen Gymraeg y dyddiau hyn. Sef bob yn ail rhaglen ddogfen Gymraeg y dyddiau hyn. Ych a fi. Ar ôl gwagio’r bwced chwydu, dechreuais ymlacio a mwynhau, er bod y deng munud cyntaf yn gwneud i mi amau a oedd Dave Coaches wedi disodli Dai Jones mewn fersiwn ffres a ffynci o Cefn Gwlad gan gwmni Boomerang, gyda graffeg modern, onglau camera clyfar a thechneg hollti’r sgrîn yn ddwy i ddangos golygfeydd gwahanol ochr yn ochr i’w gilydd. Dechreuodd y daith ar fferm organig Cae Iago ger Machynlleth, wrth i Steffan Rhodri helpu - os helpu hefyd - i ddewis ŵyn mynydd Cymreig ar gyfer bwytai pum seren y Dwyrain Pell, via lladd-dy’r Drenewydd. Erbyn diwedd y rhaglen, roedd yn cynorthwyo draig o gogyddes o’r enw Vivi Chung - fersiwn Kowloon o Gordon Ramsay - i dro-ffrïo cig oen Cymreig ar gyfer gwledd deuluol. Efallai fod y cyflwynydd wedi’i gor-ddweud hi braidd gyda’r broliant ‘pum seren’ ddechrau’r rhaglen, gan mai mewn siop gornel fach yn Hong Kong y prynwyd cig oen Cae Iago ar gyfer smotyn o fwyty organig digon di-nod yng nghysgod tyrrau gwydr y ddinas fawr boblog. A doedd dim sôn am label y ddraig goch ar becyn y siop chwaith.
Wedi dweud hynny, roedd digon o hanesion difyr am fentrwyr eraill i lenwi’r awr, rhwng cwmni o Lanpumsaint sy’n cynhyrchu eli iachaol ar gyfer salons harddwch, i Gofis sy’n gwerthu teclynnau mesur llygredd ac arbed ynni i ddinasoedd myglyd Tsieina. A digon o waith teithio i gadw Steffan Rhodri yn hapus tan y gyfres nesaf o Teulu.
O Gymru Fach, 8.25 o’r gloch nos Fawrth