Coctel Comiwnyddol



Wythnos arall, cyfres arall hefo enwogion ar grwydr ar S4C. Ond diolch byth, nid cyfres arwynebol o sgleiniog fel Piers Morgan yn ymweld â biliwnyddion y byd ar ITV mohoni. Mae Yr Ynys (Green Bay) ganmil gwell na hynny ac yn perthyn i bedigrî Yr Afon.

Mae’n rhaid bod Cerys Matthews wedi plesio’r cynhyrchwyr wrth ddilyn trywydd y Mississippi bryd hynny, gan ei bod wedi cael tocyn awyren arall. Ac fel y Manic Street Preachers o’i blaen, mae’n ffan mawr o’r ynys sofietaidd yng nghanol môr y Caribî. Rydyn ni’n hen gyfarwydd â’r cliché Ciwbaidd - Castro, Cadillacs, a Sigârs - ond a fyddai’r rhaglen hon yn dweud rhywbeth newydd wrthym am yr hen rebel comiwnyddol sydd wedi codi dau fys ar Yncl Sam ers bron i hanner canrif, ac sydd â gwasanaeth iechyd a disgwyliad oes gwell nag America fawr?

Do, mi gychwynnodd Cerys trwy gofleidio rhai o’r cliché uchod, wrth deithio drwy brifddinas liwgar, adfeiliog, Havana mewn hen dacsi o’r 1950au. Cawsom daith i hen bentref pysgota Varadero yng ngogledd yr ynys hefyd, sydd bellach yn denu ymwelwyr o bedwar ban i sipian coctels ar y traethau euraidd. Wedi blynyddoedd maith o wahardd tramorwyr, penderfynodd Castro droi at y diwydiant ymwelwyr er mwyn cynnig achubiaeth i economi bregus y wlad. Ond mae’r hen Castro wedi’i dallt hi - er mai cwmnïau gwestai rhyngwladol sy’n rhedeg y pentrefi gwyliau plastig, mae’r llywodraeth yn codi rhent uchel iddynt am y fraint o gael bod yno. Buasai’n well gen i wario pesos mewn paladares, ystafelloedd fyw wedi’u troi’n tai bwyta preifat, ac sy’n cynnig bwyd ffres, safonol, go iawn mewn awyrgylch Ciwbaidd go iawn. Ond peidiwch da chi â gofyn am stecen rhag i’r perchennog gael carchar - dim ond bwytai’r wladwriaeth sy’n cael prynu a gweini cig eidion. Ie, yr hen gymhlethdod comiwnyddol ’na eto. Fel y dywedodd Cerys, “twristiaeth a masnach breifat sy’n ariannu’r freuddwyd Sosialaidd bellach”.

Roedd Cerys ar ei gorau wrth barablu’n Sbaeneg â’r bobl gyffredin – y gwerthwr anrhegion ar y traeth, y dawnsiwr bale ifanc uchelgeisiol a’r meddyg balch er gwaetha’r ffaith ei bod ar lai o gyflog na gyrrwr tacsi. A chanu wrth gwrs, rhwng reggae, rap Latino a hyd yn oed Migldi Magldi hefo criw o gerddorion stryd. Roedd graen ar y gwaith camera, gyda golygfeydd unigol cofiadwy o bâr newydd briodi mewn Cadillac heb-do yn goddiweddyd ceffyl a throl, i’r wraig yn darllen cardiau tarot wrth smygu clamp o sigâr.

A dyna’r gamp. Ffeindio cyflwynwyr sydd â diddordeb angerddol yn y testun a’r trigolion dan sylw. Mae gweddill y gyfres yn swnio’n addawol, fel Gerallt Pennant yng nghanol rhyfeddodau natur y Galapagos i deyrnged Beti George i’w hail gartref yng Nghyprus. Pluen arall yn het ddogfennol y Sianel.

Yr Ynys, 9 o’r gloch nos Fawrth