Rhywbeth yn dechrau efo... "T"



Cân y foment i mi ydi “Mi wela i efo fy llygad bach i” gan gantores o Fôn sydd bellach yn Llydawes anrhydeddus. A llythyren gyntaf gair y foment - os nad y flwyddyn - ydi “T”, ys canodd Lleuwen. Yr hen air ailadroddus sy’n bla dros benawdau newyddion yn ddyddiol bron. Na, nid ‘t’ am y ‘twit’ Giggs yn twitter, ond ‘toriadau’. O’n hunig Swyddfa Basport cenedlaethol i’r gwasanaeth iechyd gwladol a’n hysgolion gwledig, mae’r fwyell yn taro’n galed. Mae toriadau S4C yn hysbys i bawb bellach. Ond yn union wedi’r llygedyn o obaith ym mhenodiad Huw Jones fel Cadeirydd Awdurdod y Sianel, daeth swadan arall i’r byd cyfryngau Cymreig. Ydy, mae’n ymddangos fod meistri Broadcasting House yn gofyn i BBC Cymru Wales arbed 20% o’i choffrau. A’r hyn sydd wedi dychryn a digio cymaint yw’r awgrym y gallai darllediadau byw o Sioe Llanelwedd a’r Brifwyl ddiflannu’n raddol o Radio Cymru, ac y bydd Week in Week Out a’r Politics Show Wales yn dod i ben yn llwyr. Mae’r sgrifen ar y mur ers sbel. Eisoes, dangoswyd cerdyn coch i dudalen chwaraeon gwefan BBC Cymru’r Byd, ac mae cyfres ddogfen glodwiw O Flaen dy Lygaid wedi cael y farwol. Mae stondin y BBC yn absennol o faes Felindre’r wythnos hon. Sy’n awgrymu’n gryf mai gwasanaeth iaith leiafrifol ydi’r cocyn hitio cyntaf yng nghanol toriadau mawr BBC Llundain.

Buasai’n rheitiach i’r Bîb ddechrau cwtogi’n nes adref. Y llynedd, cyhoeddwyd bod £54 miliwn wedi’i wario ar gyflogau cyflwynwyr dethol yn ystod un flwyddyn ariannol, tra datgelodd adroddiad yn 2008 fod fod rhyw ddeugain o “sêr” radio a theledu’r BBC yn ennill £1 miliwn a mwy yr un. Beth wnawn ni ’dwch? Talu’r drwydded i brynu llond wardrob o siwtiau secwins i Graham Norton neu wyneb newydd arall i Anne Robinson? Neu fynnu bod cyfran o’r drwydded a delir gan bobl Cymru yn cael ei gwario ar raglenni sy’n berthnasol i iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth unigryw Cymru? Gellir arbed £115 miliwn y flwyddyn trwy gael gwared ar BBC Three, sy’n enwog am ailddarlledu Eastenders (rheswm arall dros dorri) a chyfresi “safonol” fel Hotter than My Daughter, My Man Boobs and Me a F*** Off, I’m a Hairy Woman. Hyn oll gan Gorfforaeth sydd newydd gyhoeddi strategaeth dan y teitl ‘Rhoi ansawdd yn gyntaf’…

Cyngerdd yr Urdd nos Sul diwethaf - dyna chi safon go iawn, rhwng Cerys mewn cap Ciwba, bêbs opera, cantorion West End, dynwaredwr Michael Jackson yn bloeddio un o ganeuon Cân i Gymru, a chlocswyr lledr. Bechod fod Nia Roberts a chyflwynwyr y Post Cynta drannoeth yn mynnu cyfeirio’n dragywydd at Alex One Show Jones. Alex Tocyn Penwythnos ydi hi i wylwyr S4C, siŵr iawn. Ie, yr hen glwy’ ‘Teg edrych tua Lloegr’ ’na eto.