Mae ’na ryw deimlad anochel ‘o hec! dyma ni eto’ ynglŷn â’n honedig gêm genedlaethol y dyddiau hyn. Tydi pethau ddim yn argoeli’n dda ar gyfer Cwpan y Byd Seland Newydd yn yr hydref. Cafodd ein “bois” dan ugain oed gweir o 92 pwynt gan dîm cyfatebol y wlad honno, mewn gêm boenus o fyw yn Rygbi: Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd o’r Eidal. O leiaf mi gafodd Arthur Emyr liw haul ar ei gorun yn Stadio Mario Battaglini. ’Nôl adref, mae aelodau’r tîm hŷn yn cael eu llorio dan amgylchiadau gwahanol - mewn tafarnau, clybiau nos a bwytai byrgyrs yn Toulon, Llundain, Saundersfoot a Chaerdydd. Mae’n annhebygol y caiff y mwnci Mike Phillips docyn awyren i Hemisffer y De mewn tri mis. Go brin y gwelwn ni Gavin Henson yno chwaith - mae’r boi wedi hen benderfynu mai bod yn seren teledu tabloid yw ei flaenoriaeth bellach. Ar ôl cadw reiat yn yr Arctig ar ITV, dawnsio mor osgeiddig ag eliffant ar y BBC, ac ymddangos mewn cyfres o hysbysebion bingo erchyll, ei brosiect diweddaraf ydi fersiwn Channel 5 o Bacha hi o’ ma. Yn eironig ddigon, mae’r llanc sydd mewn cariad hefo fo’i hun a’i wely haul yn fwy na neb, yn gobeithio chwilio am gymar oes o blith 25 o ddarpar WAGs a modelau Nuts ac Ok! A’n gwaredo.
...ond nid at ein chwaraewyr rygbi cenedlaethol
Roeddwn i wedi gobeithio fod dyddiau teledu realaeth ar ben ers tranc Big Brother. Dwi’n dal heb faddau i’r gyfres honno am gyflwyno Glyn Wise i’r cyfryngau Cymraeg. Ond dwi’n croesawu’r newydd fod o leiaf un gyfres realaeth o’r gorffennol yn dychwelyd i’n sgriniau. Heb bw na be, mae S4C a chwmni Fflic wedi penderfynu atgyfodi Cariad@Iaith a fydd yn dilyn wyth o ‘enwogion’ ar gwrs dysgu Cymraeg dwys rhwng 8 ac 15 Gorffennaf. Mae’r fythol siriol Nia Parry yn ei hôl, a gwersyll ecogyfeillgar yn Sir Benfro yn cymryd lle Nant Gwrtheyrn. Y cyn-athletwraig Tanni Grey-Thompson ddaeth i’r brig yn 2004, yn erbyn Ruth Madoc, y gantores Amy Wadge, Bernard Latham (Ron Unsworth Pobol y Cwm ers talwm), a’r colofnydd cegog Janet Street-Porter – sy’n enwog am ofyn i Nia a oedd hi ar gyffuriau wrth wenu gymaint. Dyw enwau’r wyth dysgwr newydd heb eu cyhoeddi eto, gan fod S4C yn benderfynol o’n cadw ar flaenau’n traed am y tro. 'Sgwn i pwy fydd taclo’r treiglad trwynol ac yn rhugl erbyn y pumed peint? Aelodau o gabinet Carwyn Jones? Brendan Rodgers, rheolwr Abertawe, ar gyfer yr holl gyfweliadau â Sgorio ac Ar y Marc yn ei dymor cyntaf yn y Premiership? Caredigion yr iaith fel Jeremy Hunt, Kim Howells, Dan O’Neill o’r South Wales Echo neu A.A. Gill o’r Sunday Times? Amser a ddengys...