Addysgu, adlonni, ailddarlledu


Cyw yn dweud wrth Angharad Mair am godi pac...


Mae’n wyliau haf i’r hen blant, ac yn gyfnod traddodiadol yr adroddiadau diwedd blwyddyn. Ac mae byddigions Parc Tŷ Glas wedi bod yn ’sgwennu adroddiadau a strategaethau fel slecs hefyd, wrth i 29 o weithwyr dderbyn ffurflen P45, Teledwyr Annibynnol Cymru yn hogi’u cyllyll ac aelodau’r Awdurdod yn y cach eto fyth. Mae fersiwn llawnach o ‘Weledigaeth S4C 2012 a thu hwnt’ ar wefan y Sianel, ac yn rhoi syniad cliriach i ni o’r arlwy i ddod. Does dim byd syfrdanol o ddramatig ar yr olwg gyntaf - mwy o’r un peth ar 25% yn llai o gyllideb dros y pedair blynedd nesaf. Mwy o Gwmderi am 10 yr hwyr a Rownd a Rownd gydol y flwyddyn, mwy o raglenni Cyw o fore gwyn tan amser cinio, mwy o rygbi nos Sadwrn a mwy o “ail-becynnu cynnwys a manteisio ar y cyfoeth o ddeunydd sydd yn ein harchif”. Neu ailddarllediadau i chi a fi. Yn unol â’r sïon, bydd soffa Elinor Jones ac Angharad Mair am 3pm a 7pm yn wag wrth i’r Sianel lansio “gwasanaeth prynhawn fydd yn ymgorffori elfennau o gylchgrawn rhwng 13.00 a 15.00”. Wedi Un, unrhyw un? Y to iau fydd yn hawlio nosweithiau Iau, nid yn annhebyg i slot Gofod a Ddoe am Ddeg ar hyn o bryd, a bydd rhaglen gylchgrawn awr o hyd nos Wener “yn cynnig adloniant a chynnwys chylchgronol gall fod ag elfennau tabloid”. Swnio’n amheus o debyg i The One Show gydag Alex Jones a Chris Evans ar BBC1 i mi. Ac i gloi’r wythnos, “cyfresi drama, crefydd, diwylliant a ffeithiol fydd conglfeini S4C ar nos Sul” gyda’r saga doctoriaid Dallas-aidd Teulu yn sicr o bara am sbel eto, fel cyfres ddrama mwyaf poblogaidd y Sianel yn 2010 (88,000 o wylwyr). Yng ngeiriau Bethan Eames, Golygydd Cynnwys Ffuglen y Sianel “mae’r gyfres yma’n llwyddo i hudo’r gwylwyr i fyd moethus, crand a hardd y cymeriadau – dihangfa adloniannol ar ei gorau!” Beth am wisgi bach yn y Cei i ddathlu?

Dwi’n croesawu’r ymrwymiad pendant i raglenni materion cyfoes yn ystod yr oriau brig “er mwyn ateb ymhellach i’n cynulleidfa ac i dargedau Ofcom” – enghraifft o bwysigrwydd cysylltiad y BBC efallai, cyn belled bod lle o hyd i lais gwahanol y Byd a’r Bedwar sy’n rhan annatod o gyfraniad ITV Cymru ers y cychwyn cyntaf.

Ymddiheuriadau am yr hen air hyll ac od ’na yn y teitl gyda llaw. “Difyrru” neu “ddiddanu” y buasech chi a fi ac Ifor ap Glyn yn ei ddweud, ond roedd awdur(on) y Weledigaeth wedi mopio hefo “adlonni”, “adloniannol” a hyd yn oed “adloniadol” (recreation) sy’n golygu rhywbeth hollol hollol wahanol. Ych-a-fi.