Pobl ddŵad y Cwm





Un o straeon olaf rhacsyn Murdoch a Bekah Brooks oedd problemau Coronation Street, a’r ffaith fod nifer y gwylwyr wedi plymio mor ddramatig â’r tram a greodd ddinistr ar strydoedd coblog Weatherfield ’Dolig diwethaf. Gyda 7.4 miliwn o wylwyr wythnos diwethaf o gymharu â 10.4 miliwn ddiwedd Mai, roedd colofnwyr fel Brian Sewell o’r Daily Mail – ble arall - yn beio’r “wall to wall gays, transsexuals, transvestites and teenage lesbians”. Un o gyn-actoresau Eastenders sy’n cael y bai gan y Guardian, wrth i Michelle Collins gamu tu ôl i far y Rovers mewn mwngral o acen Manceinion a fyddai wedi gwneud i Ena Sharples dagu ar ei hanner stowt. Ac mae’r blogfyd yn cynnig atebion eraill, fel gormod o bwyslais ar y to ifanc Hollyoaks-aidd i ormod o danau a damweiniau dros ben llestri fel Brookside gynt. Ac rydan ni’n gwybod beth ddigwyddodd i honno.




Onid ydy pob opera sebon yn wirion o afrealistig bellach? Mae Emmerdale wedi hen golli’i gwreiddiau amaethyddol, a’r hen gymêrs hoffus fel Mr Wilks ac Amos wedi’u disodli gan siwtiau Llundeinig a genod benfelen blastig. Gyda chymaint o gystadleuaeth a phenodau gydol y flwyddyn, mae’r diwydiant sebon dan bwysau i adrodd straeon mwy dramatig nag erioed er mwyn hawlio sylw’r cylchgronau rhad-a-chas ochr yn ochr â bachiad neu boob-job diweddaraf Jordan. Y canlyniad ydi mwy o lofruddiaethau, seicopathiaid, priodasau anghymarus, ffrwydradau a phlant siawns mewn un stryd neu filltir sgwâr, nag mewn bywyd go iawn. Gobeithio beth bynnag.

Oes, mae ’na bâr priod lesbiaidd, plymar hoyw a phum Gog yng Nghwmderi heddiw. Ac mae fferm Penrhewl yn dal i fynd. Pobol y Cwm ydi’r unig gyfres sebon dwi’n ei dilyn yn rheolaidd bellach, diolch i straeon ac actio gwirioneddol afaelgar yn ddiweddar. Ia, chwerthwch chi, snobs sebon. Ond mae’r storïwyr wedi cyflawni gwyrth trwy wneud inni gydymdeimlo â rhai o gymeriadau mwyaf annifyr y Cwm – Debbie Collins, Sioned Rees a Macs White. Gwelsom y gnawes galed Debbie Collins yn dangos emosiwn prin, wrth boeni’i henaid am Liam ei mab ar faes y gad yn Afghanistan. Macs White wedyn mewn gwewyr meddwl ar ôl cael ei dreisio gan Scott, a Sioned yn methu ymdopi â’i dyweddi oeraidd. Ble’r oedd peiriant cyhoeddusrwydd S4C a BBC Cymru pan dorrodd y stori ddadleuol, rymus hon?

Yn anffodus, mae plotiau eraill yn tynnu sylw oddi ar hyn. ‘Chwithig’ ac ‘amaturaidd’ ddaeth i’r meddwl wrth wylio Jinx a Hywel yn creu darllediadau ffug ar Cwm FM. A dw i’n gorfod cuddio tu ôl i glustog bob tro mae Frank yr Ianc yn ymddangos ar y sgrîn. Mae’r gwylwyr praff eisoes yn holi pam fod Tony Trin Gwallt wedi dychwelyd i’r Cwm fel Americanwr. Danny Grehan ydi’r actor tu ôl i’r barf ac acen ryfedd Frank Orringer o Ohio, sy’n hel achau yn y Cwm - a Danny Grehan oedd Tony, un o weithwyr Deri Dorri a oedd dan fawd Sharon Burgess ganol y 1990au. Sut ddiawl lwyddodd ei gydactorion i gadw wyneb syth?

Gwyliwch, a gwingwch.



Ar y llaw arall, mae'r Iancs go iawn - neu'r Texans i fod yn fanwl gywir - ar fin dychwelyd i deledu America. Ydy, mae sianel gebl
TNT wedi penderfynu atgyfodi saga'r teulu hwnnw sy'n diferu o bres ac sy'n enwog am gynllwynio, mynychu rodeos, ffwrcho, mwrdro a phobl yn dychwelyd o farw'n fyw mewn cawod, rhwng 1978 a 1991. Cenhedlaeth newydd yr Ewings sy' dan sylw y tro hwn, sef hogia Bobby a JR - ac ydy, mae'r hen stejars yn eu holau. A sbïwch ar Sue Ellen - waw!