'Craic' Cymraeg





Roedd Wrecsam yn y newyddion ymhell cyn i’r syrcas fawr ddiwylliannol lanio ar gaeau Bers Isaf. Newyddion drwg yn bennaf. Bu Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod mewn limbo gwleidyddol am ddeufis diolch i flerwch amaturiaid y Comisiwn Etholiadol, aeth busnesau Hotel Stephanie i’r wal, a thimau’r Cae Ras bron i’r gwellt. A bore Gwener diwethaf, roedd criw condemnedig y Post Cyntaf yn croesawu’r Brifwyl hefo rhybudd am golli swyddi a gweithgareddau oherwydd y wasgfa. Pan nad oedden nhw’n rhoi wythnos o sylw i fabolgampau Llundain 2012, hynny yw.




Diolch i’r nefoedd felly, am griw gobeithiol a chadarnhaol Pobol y Ffin. Roedd y rhaglen arbennig hon o stabl Pethe yn cyflwyno bwrlwm bro’r Steddfod trwy lygaid pedwar o’r trigolion, yn fardd, ffotograffydd, athro drama ac arweinydd corau. Soniodd Aled Lewis Evans am y gwahaniaeth aruthrol yn Wrecsam ers Eisteddfod ’77 - o fod yn dref Seisnig ar y naw i un llawn bwrlwm dwyieithog heddiw. Talodd deyrnged i gyfraniad “arwrol” rhieni di-Gymraeg am anfon eu plant i ysgolion Cymraeg, ffaith a ategwyd gan Peter Davies - newydd-ddyfodiad o Gaerdydd sydd bellach yn rhoi cyfleoedd allgyrsiol i ddisgyblion Morgan Llwyd trwy gyfrwng dramâu Cymraeg. Ac mae’r ardal bellach yn “grochan o greadigrwydd”, gyda Cheryl Vaughan yn arwain côr merched y Rhos, gwaddol yr hen fwrlwm glofaol; a Llinos Griffiths, ffotograffydd ifanc sy’n tynnu lluniau swyddogol o blant ysgol a chofnodi gigs y dre fin nos. Ond mae yna ddiffyg ymwybyddiaeth anhygoel, hyd yn oed yn ardal y Clawdd. Dywedodd Llinos fod bobl “lawr y ffordd” (Caer, Lerpwl, Manceinion) yn meddwl mai Albanes yw hi, a hen ffrindiau coleg o Lundain yn syfrdanu ei bod yn ennill bywoliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Efallai fod y ffin ieithyddol a diwylliannol yn llai nag a fu yn Wrecsam, ond mae’r ffin arall - difaterwch a diffyg gwybodaeth y genedl drws nesaf – mor lydan ag erioed.

Safbwyntiau lleiafrif breintiedig, dosbarth canol Cymraeg, gawson ni’n fan’na. Lleiafrif arall oedd dan sylw yn Joe a Ruby, sipsiwn Ffordd Rhuthun a chymdogion y Brifwyl. Roedd ymateb y Gwyddelod i’r Pafiliwn Pinc yn ddoniol a chalonogol, gyda Joe yn llawn brwdfrydedd am y ‘castell tylwyth teg’ yn rhoi llwyfan i bobl ifanc ddawnus, a Florie yn dweud wrth Elfed Roberts, y Prif Weithredwr, ei bod am chwifio’r ddraig goch wrth giât ei chartre’ symudol. Ond rhaglen drist a rhyfedd braidd oedd hi. Trist oherwydd y portread o unigrwydd a hiraeth dagreuol yr hen feddwyn Joe Purcell am ei gaseg wen, Ruby, ar ôl i’r cyngor lleol ei chymryd oddi arno am bori’n anghyfreithlon. Roedd llygaid y byd arnynt ym mai Mai, wedi i gamerâu cylch cyfyng Wrecsam ddal Ruby a’i meistr yn crwydro gorsaf drenau, ysbyty a thafarnau’r dre. A rhyfedd, gan mai rhaglen gwbl Saesneg oedd hi yn y bôn ar wahân i droslais Twm Morys a chaneuon Bob Delyn.