Y Gorfforaeth ar ei gorau



Wel dyna ni. Dôs o ddiwylliant pur drosodd am flwyddyn arall, a chyfle i fwynhau môr o Gymraeg am wythnos yn Awst – heblaw am siop y maes carafanau, faniau hufen iâ Swydd Efrog a pheiriant twll-yn-wal-y-Maes. Ac os nad oeddech chi’n un o bobl y Pethe, hen dro, oherwydd y Pafiliwn Pinc oedd popeth i’r cyfryngau Cymraeg. Ar adeg pan fo cryn amheuaeth ynghylch S4C dan adain y BBC, dyma’r Gorfforaeth ar ei gorau – o’r hen lawiau profiadol fel Hywel Gwynfryn a Nia Lloyd Jones ar y radio, i Huw Eic a Rhun ap Iorwerth ar y bocs. Er, roedd hi’n ymddangos weithiau fel petai Mr Newyddion o Fôn yn eistedd yng nghadair Pethe, wrth drin a thrafod materion y dydd gyda dau westai nosweithiol yn hytrach – clywais rhai’n beirniadu bod y gwesteion hyn yn cael gormod o lwyfan ar draul y cythrel cystadlu. Bechod na chafodd Gwilym Owen a Huw Jones, pen bandit newydd Awdurdod S4C, rannu soffa ar yr un noson. Dychmygwch y sbarcs wedyn.

I mi’n bersonol, roedd Tocyn Wythnos Radio Cymru yn rhagori ar uchafbwyntiau’r teledu, gyda Beti George yn crynhoi holl ddigwyddiadau’r dydd yng nghwmni beirdd, llenorion, cantorion ac adolygwyr gweithgareddau’r nos. A wnes i ddim sylweddoli tan wedi’r eisteddfod, fod modd gweld yn ogystal â chlywed y rhaglen ar wefan BBC Cymru. Mae gen i frith gof o’i gweld ar S4C2 yn y gorffennol, pan gafodd ei darlledu o flaen cynulleidfa frwd y Babell Lên a greodd fwy o awyrgylch i’r cyfan. Y tro hwn fodd bynnag, roedd Beti a’i phobl wedi’u gwasgu i soffa fechan ym mhabell y Bîb, a’r cyfranwyr yn camu’n llechwraidd dros ddrysfa o wifrau cyn straffaglu efo’u clustffonau a nodiadau. Un o’r uchafbwyntiau oedd gweld y gyflwynwraig yn ei dyblau wrth i Stifyn Parri refru yn erbyn cerdd dantwyr dros ben llestri. Cipolwg difyr iawn y tu ôl i lenni’r stiwdio radio. Cyfraniad rhyfedda’r wythnos, oedd y beirniad honno a gwynodd fod y clasurol yn cael cam gan S4C. Ydi hi’n gwylio’r un Sianel â mi? Go brin, rhwng cyngherddau Aberglasney, Tri Tenor Cymru, ailddarllediad o gyfres Shân Cothi nos Sadwrn a phumed darllediad o Russell Watson yn Llangollen…

Llongyfarchiadau i’r BBC am roi cyfle i Siân Lloyd - un o genod Wrecsam ac wyneb cyfarwydd Wales Today, nid pengoch y tywydd - gyflwyno straeon o’r Maes yn y Gymraeg. Chwa o awyr iach yng nghanol y myrdd o wynebau orgyfarwydd a aeth ymlaen i gyflwyno Sioe Môn: Digwyddiadau ’11 neithiwr ac echnos.

I gloi, cri o’r galon i S4C. Braf gweld rhaglenni teyrnged er cof am yr actor Stewart Whyte McEwan Jones, ond beth am y perlau diweddar? O! am gael gweld ei berfformiadau cofiadwy yn nramâu Meic Povey, o’r hen daid anhylaw yn Talcen Caled i’r cythral o ffarmwr yn Nel, ffilm gŵyl Ddewi 1990. Clasur coll yn wir.