Uffern canu gwlad



Mae gen i rywbeth diddorol o oes yr arth a’r blaidd yn y tŷ ’cw. Mae’n hel llwch efo dwsinau o rai eraill yng nghwpwrdd y lolfa. Na, dim byd amheus, diolch yn fawr iawn. Tâp VHS o’r enw “Pop peth”, casgliad o fideos o’r gyfres deledu boblogaidd Fideo 9 a gyhoeddwyd ym 1992, gyda pherfformiadau o ‘Santa a Barbara’ gan Datblygu, ‘Ffwnci’ gan Tŷ Gwydr a’r clasur ‘Hydref yn Sacramento’ gan Ffa Coffi, ymhlith y 14 o draciau. Mae gen i frith gof o wylio rhaglen eiconig Criw Byw un noson, a chael fy nghyfareddu gan ryw flonden swynol yn canu ‘Difrycheulyd’ wrth i Marc Roberts o’r Cyrff lafarganu mewn acen Ffrengig Llanrwst. A dyna gychwyn f’obsesiwn oes gyda Catatonia a Cerys.

Ers hynny, mae’r byd pop Cymraeg wedi’i weddnewid yn llwyr - er gwaeth meddai’r gwybodusion, rhwng helynt breindaliadau pitw Radio Cymru, gigs gwag, gwerthiant CDs ar i lawr, diffyg tân ym moliau’r to ifanc, a phrinder sylw i gerddoriaeth newydd ar S4C. Mae rhaglen gerddoriaeth y ddau Huw - Stephens ac Evans - bellach wedi’i chwtogi i gyfres achlysurol Bandit yn Gigio, fel y rhaglen uchafbwyntiau o Brifwyl Wrecsam heno. Ac er mor hwyliog ydi Gofod, tydi’r gyfres bresennol ddim yn cynnwys band byw, ac mae llwyfan Wedi 3 a Wedi 7 ar fin cau, wrth i raglenni soffa-a-sgwrsio Angharad Mair wynebu’r fwyell. Diolch i’r drefn am Nodyn felly, a ddychwelodd am gyfres newydd nos Wener diwethaf dan law Elin Fflur yn ffres o’r ’Steddfod. Mae hon wedi hen ennill ei phlwyf bellach (y gyfres, nid Elin Fflur), ac yn gyfuniad da o sgwrs a pherfformiadau byw mewn lleoliadau godidog ac od ar naw weithiau. Al Lewis Band oedd dan sylw, a’r lleoliad oedd traeth a goleudy Talacre dan olau sêr. Ai fi sy’n drysu neu a oedd yna fwy o sgwrsio yn y gyfres newydd yma, a hynny ar draws y gerddoriaeth weithiau hefyd? Ac os nad oedd hynna’n ddigon drwg, neilltuwyd ail ran y rhaglen i felltith fwyaf y byd adloniant Cymraeg. Canu Gwlad. Rŵan, mae gan Wil Tân lais melfedaidd ac mae’n ymddangos yn gymeriad digon clên, ond roedd rhywbeth afreal iawn o’i weld yn galarnadu am “driog lais” a “locsyn sgwâr” Ronnie Drew yng ngorsaf dân Biwmares gerbron dyn tân, llanc llawn tatŵs ac ugain o Ferched y Wawr yn dawnsio gyda’u bagiau siopa. Fyddai Doreen Lewis byth wedi ymddangos ar Fideo 9 ugain mlynedd yn ôl. Beth am ddilyn esiampl Pethe, a chreu fersiwn arall o raglen yn slot Noson Lawen ar gyfer cenhedlaeth mam a miloedd eraill sydd wedi mopio ar y math yma o ganu - 'Nodyn Nashville' os leiciwch chi; a 'Nodyn nos Wener' i’r ifanc a’r ifanc eu hysbryd?

Bandit yn Gigio, 9 o’r gloch heno
Nodyn, 9.30 nos Wener