Hitler yn Ffair Llanllyfni

Peth rhyfedd a phersonol iawn ydi hiwmor. Bythefnos yn ôl, roedd Nia Roberts a’i gwesteion ar y radio yn dathlu 30 mlynedd ers cychwyn un o binaclau comedi Prydain. Meddan nhw. Yn bersonol, roedd giamocs Del Boy a Rodney Only Fools and Horses mor ddoniol â chlwy’r marchogion (peils i chi a fi). Roedd Teulu’r Mans ddechrau’r nawdegau hefyd yn wrthun i mi, er bod fy ffrind ysgol ar y pryd, un o hogia’ Dre Llanrwst a oedd fel rheol yn troi’i drwyn ar bopeth Cymraeg, wedi mopio ar berfformiadau gwallgof Emyr Wyn a’r criw. Rhyw dair wythnos yn ôl, anwybyddais raglen gomedi newydd sbon yn slot marwaidd 6.30pm sydd fel arfer wedi’i neilltuo i Catrin, Lyn a Gwyn o’r 80au pell. Er gwaetha’ cyfres o hysbysebion byrion, doedd Dim Byd ddim yn apelio. Roeddwn wedi cymryd mai rhaglen rad-a-chas oedd hi, yn llenwi’r bwlch cyn i Angharad, Siân neu John ddechrau’r noson go iawn am saith. Ond yn ara’ deg a bob yn dipyn, dechreuais amau ’mod i’n colli clasur diolch i ymatebion canmoliaethus ar dafod leferydd a lot fawr o godi bawd ar facebook. Diolch i’r drefn am S4/Clic, a’m gadawodd i wylio tair rhaglen ar y trot.

Rhyw lobsgóws o raglen ydi Dim Byd ar yr olwg gyntaf, gyda’r sgrin yn ymddangos fel dewislen rhaglenni lloeren a rhibidirês o olygfeydd byrion. Ond mae’n glyfar ac yn gweithio ar sawl lefel. Mae’n dychanu ac yn dynwared ein dull difynedd ni o neidio o un sianel i’r llall yn y gobaith prin o ganfod rhywbeth gwerth ei weld. Ac mae teitlau’r rhaglenni niferus yn dychanu rhai go gyfarwydd, o 100 Steddfod Gorau Cymru i Ar ei Iolo a’r Blaned Newydd sy’n amheus o debyg i griw Hacio. Buan y trodd rhaglen chwarter yn hanner awr a mwy wrth i mi rewi’r sgrin er mwyn darllen y teitlau rhaglenni deifiol o greadigol (gweler teitl yr erthygl!). O raglen rasys geffylau Mynd fel Bom o’r archif i Come Dine with Nain lle mae’r hen ddynas yn paldaruo wrth hwrjio brechdanau a chacennau cartref i’w hŵyr, mae bron â chynnig cipolwg hunllefus inni o ddyfodol S4/C dlawd. Y ffefryn o bell ffordd yw Hanes dy Nain, gyda hen wreigan yn hel atgofion am galedi’r oes o’r blaen a’i phrofiad o ddefnyddio youtube ac ofni’r Welsh Not am decstio’n Gymraeg. Sgetsh fach effeithiol sy’n ein hatgoffa ni i beidio â chymryd bob copa walltog gwyn yn ganiataol, na disgwyl clywed hanesion rhyfel yn unig ganddynt. Pob clod i Rose Edwards 85 oed o Frynsiencyn am actio mor naturiol braf, ac i’r cynhyrchwyr am ddefnyddio pobl go iawn yn lle pensiynwraig gyda cherdyn Equity.

Ôl-nodyn i drefnwyr amserlen S4C – da chi, ailddarlledwch y perl o gyfres hon yn hwyrach yn y nos i’r rhelyw ohonom sy’n rhy brysur yn swpera neu’n disgwyl am gyfarchiad Cymraeg y dydd gan Derek Tywydd ar sianel arall.