Clwb Natur nos Fercher




Wn i ddim a fuaswn i a Iolo Williams yn cyd-dynnu. Dwi’n dod o gefndir amaethyddol, yn ddatganolwr brwd ac yn croesawu unrhyw gyfle i droi ffordd drol yr A470 yn gefnffordd genedlaethol o’r iawn ryw. Mae Mr Natur S4C ar y llaw arall wedi lladd ar ffermwyr defaid mynydd yn y gorffennol, yn cyhuddo’r Cynulliad Cenedlaethol o fopio’n ormodol ar fetropolis Caerdydd, ac wedi dadlau’n llym erioed yn erbyn ffordd osgoi Pontnewydd ar Wy. Ond fel arbenigwr yn ei faes, mae’n ddiguro, yn un o gyfranwyr rheolaidd a difyr Galwad Cynnar gyda Gerallt Pennant, heb sôn am gyfresi teledu di-ri yn y ddwy iaith. Cyfres chwe rhan Antur y Gorllewin (Aden) yw’r ddiweddaraf ar S4C - nid dilyniant i’w anturiaethau gyda llwythi brodorol America, ond portread o fyd natur gorllewin Ewrop, o gynhesrwydd ynysoedd yr Asores i oerni Gwlad yr Iâ. Er mai pobl Ewrop yw ’niléit a ’niddordeb mwyaf i, fel cyfres ddogfen Putin, Russia and the West BBC Four ar hyn o bryd, dyma dderbyn gwahoddiad y dyn ei hun i fwynhau “dipyn o siwrnai”. Yr wythnos hon, roedd Iolo wedi pacio ei sbienddrych a’i siorts i Sbaen, gan ryfeddu ar fflamingos yng ngwlypdir fwyaf gorllewin Ewrop i geirw ar gopaon gwyn Los Pirienos yng nghanol Mehefin. Ond uchafbwynt personol i’r cyflwynydd, a thestun sawl “Rargian Dafydd!”, oedd cath. Nid unrhyw bwsi meri mew chwaith, ond cath wyllt brinna’r byd. Pob clod i’r naturiaethwr a phob cydymdeimlad â’i ddyn camera Steve Phillips am aros ac aros, ffilmio ambell gwningen ddi-nod, a loetran yng ngwres tanbaid canol dydd Sierra Morena er mwyn cael cip ar Lyncs Iberia. A ¡Gracias a Dios! fod batri’r camera’n gweithio i gofnodi’r foment fawr. Damia nas oes gen i deledu Clirlun i werthfawrogi’r gyfres yn llawn.

Cath wyllt oedd dan sylw Rhys to the Rescue hefyd. Neu ‘Bwystfil y Bannau’ i fod yn fanwl gywir, wrth i’r Dr Rhys/Reeez Jones geisio datrys dirgelwch y goedwig mewn cyfres newydd gan BBC Wales. Gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd ydi’r cyflwynydd sydd, diolch i’w drwydded arbennig i drin rhai o anifeiliaid prinnaf a pherycla’r byd, yn teithio i bedwar ban. Ac Abertridwr ger Caerffili, ble cafodd alwad gan berchnogion tŷ cyngor i achub neidr a oedd wedi denig o dan y bath. Ych. Tra bod y gyfres hon yn trio’n rhy galed i fod yn ddifyr gyda cherddoriaeth bop orfywiog yn y cefndir, roedd un S4C yn llawer mwy hamddenol braf gyda seiniau gosgeiddig John Hardy a Rob Whitehead.





Heno, bydd Pobol y Cwm ac ambell wyneb o’r gorffennol yn talu’u teyrnged olaf i Denzil Rees a gwympodd yn gelain ar Stryd Fawr Cwmderi. Gobeithio y gwelwn i ychydig bach mwy o emosiwn gan Anti Marian ar lan y bedd beth bynnag. Beth bynnag yw’ch barn ynglŷn â’r ymadawiad “mwyaf erioed yn hanes y gyfres” fel yr honnodd Ynyr Williams y cynhyrchydd - a negyddol a siomedig ar y cyfan fu’r ymateb ar twitter (gwglwch #diwedddenzil) a fforwm Taro’r Post - fe lwyddodd peiriant cyhoeddusrwydd BBC Cymru i greu cyffro a chryn siarad cyn y Bennod Fawr. Er, mae’n siŵr eu bod nhw’n gwingo o glywed yr actor Gwyn Elfyn ar Beti a’i Phobl braidd yn flin o gael cic owt o’r gyfres ar ôl 28 mlynedd o wasanaeth ffyddlon i’r lori gaca a chownter y siop.