Merched yn Bennaf



Dwi wedi dweud hyn droeon o’r blaen - BBC Four ydi un o’m hoff sianeli teledu. Tra bod sianeli Saesneg eraill yn boddi dan operâu sebon, Gareth ‘Alfie’ Thomas yn plymio i isafbwynt Big Brother a chyfresi-g’neud-cacennau-bach neu beth bynnag yw’r chwiw ddiweddaraf ymhlith trendis Hampstead neu’r Bont-faen, mae BBC Four yn hafan o ddogfennau o sylwedd am hylltra apartheid a dramâu Ewropeaidd penigamp. Ac wedi lladd fy mywyd cymdeithasol ers sawl penwythnos bellach. Ar ôl ffarwelio Sarah Lund a’i siwmper wlanog waedlyd yng nghyfres dditectif gaboledig Forbrydelsen II cyn y Nadolig, mae ’na ddynes arall o Ddenmarc yn mynnu’r sylw am ddwy awr gron bob nos Sadwrn. Rhywsut rywfodd, mae sianel DR (Danmarks Radio) wedi creu chwip o gyfres ddrama deg pennod am lywodraeth glymblaid - nid y testun mwyaf cyffrous ar wyneb daear, rhaid cyfaddef - dan arweiniad Birgitte Nyborg, statsminister neu brif weinidog newydd dychmygol Denmarc. Mae Borgen (“castell” neu “caer”) yn gyfuniad cyfareddol o ddrama wleidyddol a theuluol, ac yn neidio o goridorau grym Christiansborg â sbinddoctoriaid a dinosoriaid o bleidiau eraill, bywyd y cartref â gŵr lled-anniddig a dau o blant, a bwrlwm stiwdio newyddion lleol. Mae’r straeon yn llifo mor rhwydd a gafaelgar nes bod yr isdeitlau ar y sgrin bron yn angof. Oedd bywyd llywodraeth Cymru’n Un mor gyffrous â hyn? Gyda llaw, does dim gwirionedd yn y si mai aelod Plaid Cymru dros Harvard, UDA, yw’r Adam Price sy’n ymddangos yn y rhestr gloi fel crëwr ac awdur y gyfres. Ac mae ffuglen yn ffaith erbyn hyn, gan mai merch-yng-nghyfraith Neil Kinnock a Glenys o Gaergybi sy’n arwain y Daniaid heddiw.

Gallaf ddychmygu Mr a Mrs Gweinidog Tramor Prydain yn setlo ar y soffa i wylio’r gyfres ar yr aelwyd yn Richmond, Swydd Efrog hefyd. Wedi’r cwbl, mae Ffion Hague yn dipyn o arbenigwraig ar hanes merched dylanwadol a grymus drwy’r oesau yn Mamwlad. Er bod y rhaglen gyntaf ar Megan Lloyd George yn canolbwyntio gormod ar ddylanwad ei thad, roedd hanes Kate Roberts yn ddifyr a dadlennol dros ben. Penderfynodd Ffion Hague ganolbwyntio ar hanes dieithr Kate y wraig fusnes yn hytrach na brenhines y stori fer Gymraeg. Er gwaethaf ymbil Saunders Lewis iddi ganolbwyntio ar lenydda, ymroi i achub Gwasg Gee Dinbych wnaeth Kate ar ôl tyngu llw i’w gŵr Morris na fyddai’n gwerthu’r busnes. Ond stori drist oedd hi ar y cyfan, gyda’r wasg yn faen melin am ei gwddf ar ôl i’w gŵr ei gadael mewn llanast ariannol. Druan â hi. Pe na bai’r lol o gael ei hailfedyddio’n Lesbiad ein Llên yn ddigon drwg, clywsom gyfranwyr y rhaglen yn cyfeirio ati fel “hen ddynas flin anghynnes” nad oedd yn or-hoff o blant. Am gelpan i “fam” Deian a Loli a Wini Ffini Hadog. Mae’n berl o gyfres sy’n taflu goleuni newydd ar ferched roeddem yn tybio ein bod yn eu hadnabod, ac eto ddim. Tybed a fydd rhaglen ddogfen neu ddrama’r dyfodol yn olrhain bywyd Prif Weinidog benywaidd cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol?