Y Cythrel Cystadlu a'r Cwrw

Llond sied o hwyl a llond trelar o ddoniau ar y llwyfan. Dyna rai o’r ystrydebau a ddefnyddiwyd yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc: Digwyddiadau ’11 o Sunny R’yl nos Sadwrn diwethaf. Rhaglen a brofodd, heb os nac oni bai, fod mwy o dalent ym mys bach y cystadleuwyr hyn na’r perfformwyr carioci ar raglen ITV yr un pryd sy’n colli gwylwyr yn llu. O gerdd dantio i feimio cân gan gymeriadau plant poblogaidd, roedd yna rywbeth i blesio pawb. Mae’n siŵr fod yna sgetsh efo llancia blewog mewn wig a bronnau plastig yno’n rhywle hefyd, elfen mor annatod o’r cystadlu â Morgan Jones, Ifan a Mari fel cyflwynwyr. Byddai’n braf petai S4C wedi mentro i ddefnyddio wynebau newydd o’r clybiau i gyflwyno peth o’r arlwy, pobl sy’n nabod y criw ac yn gwybod sut i gael y gorau o’r cystadleuwyr nerfus gefn llwyfan. Rhywun fel Meinir Ffermio Jones efallai, sydd wedi hen ennill ei phlwyf ar gyfres amaethyddol nos Lun bellach. Gallai ei chydweithiwr Terwyn Davies fod wedi cadw’i sedd yn gynnes yn y stiwdio wrth iddi bicied i’r llwyfan ac ennill y gystadleuaeth llefaru dan 26 oed ymhlith eraill. Go dda hi, ac i S4C am roi lle teilwng i’r cythrel cystadlu CFfI bob blwyddyn erbyn hyn.

Ystrydeb anffodus arall ydi’r teithiau rygbi, sy’n saff o gynnwys ambell anffawd alcoholaidd. Pwy all anghofio giamocs meddwol ŵyr-yng-nghyfraith y Cwîn yn Seland Newydd dros yr hydref, tra’r oedd carfan ifanc Cymru yn esiampl glodwiw i weddill y byd rygbi? Trueni nad yw’r un peth yn wir am fois yr Aman. Nhw agorodd cyfres newydd Y Byd ar Bedwar sy’n brolio ei bod yn “cynnig newyddiaduraeth ymchwiliadol o’r safon uchaf”. Ac eithrio nos Lun diwethaf, efallai. Roedd y rhaglen yn olrhain gwyliau haf dau Gymro ifanc a drodd yn hunllef ar ynys Ibiza. Adroddodd Christian Gregory o Rydaman yr hanes, a oedd, i bob pwrpas yn cynnwys marathon yfed mewn limo i faes awyr Caerdydd cyn glanio yn San Antonio am ddau y bore a’i throi hi’n syth am far Delilah’s. Erbyn toriad gwawr, roedd Christian mewn coma ar ôl cael ei daro’n anymwybodol y tu allan i glwb nos. Daeth drwyddi, diolch i’r drefn, ond mae ei deulu’n dal i chwilio am atebion ac yn cyhuddo heddlu Ibiza o laesu dwylo. Ymhen dipyn, fe ddaeth i’r amlwg bod pobl yn pwyntio bys at bownsar o Sais - ond er gwaethaf ymchwiliadau’r criw cynhyrchu, ni welwyd bw na be o’r llabwst honedig. Hanner awr yn ddiweddarach, doedden ni fawr callach. Y cwbl a gawsom oedd golygfa di-ri o’r gohebydd Sian Morgan yn crwydro’n ddi-glem o gwmpas West End San Antonio, yn gadael swyddfa’r heddlu, bar Lineker’s a chlwb Delilah’s yn waglaw a neb yn fodlon siarad â hi. O leiaf fe gafodd hi wibdaith i’r haul.

Siawns bod y Deri Arms yn saffach o beth gythgam. Mae tafarn enwocaf Cymru wedi newid dwylo, a braf gweld wynebau newydd yn Ed ac Angela (Geraint Todd a Tara Bethan). Mae’r berfformwraig amryddawn o Lansannan wedi meistroli’r acen hwntw mor berffaith nes i rai fethu â’i hadnabod. Rhyngddi hi a Sera Cracroft o Abergele (Eileen Penrhewl), mae’n rhaid bod rhywbeth arbennig yn nyfroedd yr hen Glwyd.