Gwlad Yncl Sam Hughes




Mae’n destun rhyfeddod cyson i mi. Y ffaith fod Cymru mor, mor anhysbys i’r mwyafrif o Americanwyr er gwaetha’r ffaith fod gwaed Cymreig wedi llifo trwy wythiennau rhai o drigolion y Tŷ Gwyn dros y degawdau, o Thomas Jefferson (arlywydd 1801-1809) i Hillary Clinton. A heddiw, mae Ann gwraig Mitt Romney, un o geffylau blaen y Gweriniaethwyr yn ras Arlywyddol 2012, yn canu clodydd ei thaid o Faesteg ac yn gweini cacennau cri i aelodau’r wasg a’r cyfryngau. Mae Americanwyr amlwg fel y canwr Donny Osmond a’r actores Susan Sarandon wedi ymddangos ar gyfres hel achau BBC Wales, Coming Home. A bob hyn a hyn, mae S4C yn llwyddo i atgyfodi rhyw Gymro dieithr arall a adawodd ei farc yn America Fawr. Llynedd, bu Mr Hollywood a Matthew Rhys yn olrhain hanes hynod ddiddorol Griffith Jenkins Griffiths o Ben-y-bont ar Ogwr a adawodd ei ffortiwn i ddinas Los Angeles. Eleni, John Pierce Jones sy’n mynd ar drywydd Cymro Cymraeg o Lanfyrnach a hudwyd gan y freuddwyd Americanaidd o dlodi Sir Benfro ym 1837. Roedd darllenwyr colofn ffraeth ‘Y Pridd a’r Concrid’ yn y misolyn Barn eisoes yn gwybod bod ’na gyfres ar y gweill. Byddai rhywun wedi disgwyl i frodor o wlad y Wes Wes gyflwyno’r hanes, ond mae gan y Monwysyn domen o frwdfrydedd drosto. Heb anghofio’r fantais o gael teulu-yng-nghyfraith draw yn America i arbed costau llety i’r cwmni cynhyrchu.

Man cychwyn cyfres Sam Hughes: Cowboi Penfro (Rondo Media) a thestun chwilfrydedd JPJ oedd gweld enw Sam Hughes ar strydoedd, caffis, gwestai ac ysgolion dinas Tucson yn niffeithdir Arizona. Rhaid gwylio’r ail raglen wythnos nesaf i weld pam yn union, ond am y tro, dilynwyd taith gychwynnol Sam Hughes o fferm laeth yn nhalaith Pennsylvania i geginau rhodlong New Orleans a chyda phorthmyn y wagon-trains i feysydd aur Califfornia. Hyn oll er gwaethaf sawl trallod personol yn sgil colli’i fam, a’i dad anabl yn gorfod magu wyth o blant. Un o uchafbwyntiau’r rhaglen oedd gweld y Gymraeg ar arwyddion Philadelphia a’r cylch, o Llanberis Road i Berwyn Nails a Bala-Cynwyd School. Yn wir, esboniodd y cyflwynydd fod cymaint o fri ar enwau’r henwlad nes bod rhai newydd a gwirion braidd yn cael eu bathu, gan bwyntio at arwydd Aberwyck Apartments. Uchafbwynt arall oedd hiwmor Picton-aidd y cyflwynydd, gyda phytiau diflewyn ar dafod yng nghanol ffeithiau hanesyddol Dr Bill Jones o Brifysgol Caerdydd ac ymateb Richard ‘Dic’ Hughes i anturiaethau ei hen daid. Os nad oedd y “sothach” o fwyd at ei ddant, roedd ei draed yn llawn swigod fel balŵns efo’r holl drampio. “Gobeithio bo’ chi’n gwerthfawrogi hyn!” harthiodd. Dyna chi fyd o wahaniaeth i arddull dawel barchus Ffion Hague yng nghyfres gaboledig Mamwlad.

Cyd-ddigwyddiad hapus yw’r ffaith mai actor o dras Gymreig yw seren un o uchafbwyntiau teledyddol 2012 yn ôl y Gwybodusion. Yn Homeland, mae Damian Watcyn Lewis yn chwarae rhan milwr Americanaidd sy’n dychwelyd adre’n arwr ar ôl wyth mlynedd o gaethiwed yn Irác, tra bod aelod o’r CIA yn amau ei fod wedi’i drawsnewid yn derfysgwr al-Qaeda. Mae’n ysgytwol, yn amlhaenog o gyffrous ac yn chwarae ar baranoia America ôl-9/11. Ac os ydi’r gyfres yn ddigon da i Obama, mi wnaiff yn tsiampion i mi hefyd.