Brith gof

“Ysgytwol” - un o’r ansoddeiriau cyffredin a ddefnyddiwyd mewn rhaglen ddogfen arbennig ar S4C neithiwr. ‘Trist’, ‘dewr’, ‘emosiynol’ a ‘lled-obeithiol’ - gyda’r pwyslais ar y ‘lled’ - yw’r geiriau eraill ddaeth i’r cof. Ac mae hwnnw’n beth bregus ar y naw, gan mai colli’r cof, gair pobl ers talwm am glefyd alzheimer a dementia, oedd dan sylw Un o bob tri. Mae’r teitl yn cyfeirio at yr ystadegyn brawychus hwnnw sy’n awgrymu faint ohonom fydd yn marw gyda’r clefyd creulon hwn. Y dihafal Beti George oedd wrth y llyw, mewn rhaglen awr a oedd yn gyfuniad o gyfweliadau gydag arbenigwyr ac ymchwilwyr prin yn y maes, ymweld â chartrefi gofal arbennig, ac ing teuluoedd o bob cwr a phob haen o’r gymdeithas yng Nghymru. Nid holwraig yn unig oedd Beti chwaith, ond rhywun sy’n siarad o brofiad. Yn benderfynol o daclo’r tabŵ o flaen camera, cyflwynodd hanes ei chymar David Parry-Jones a gafodd ddiagnosis alzheimer dair blynedd yn ôl.

Esboniodd ei fod yn benderfynol o gyfrannu at brosiect arbennig tair blynedd yn Ysbyty Llandochau, Caerdydd, gan arbrofi gyda chyffur newydd a rhoi gwaed at gronfa ymchwil y dyfodol. Fe’i gwelsom yn yr ysbyty, a’r ymchwilydd yn holi pa dymor a mis o’r flwyddyn oedd hi. Ac yna’r olygfa boenus honno o gyn-ohebydd Wales Today ac awdur dros ddwsin o lyfrau o fri fel Prince Gwyn: Gwyn Nicholls and the First Golden Age of Welsh Rugby yn cael trafferth rhoi brawddeg ar bapur. Gwelsom gysgod y clefyd ar deuluoedd eraill hefyd, fel gwraig ifanc o Wrecsam sy’n ofni mai hi fydd nesa’ i etifeddu salwch ei mam, ei nain a’i hen nain. Ond y tristaf heb os, oedd hanes Siân Jones, mam a gwraig 59 oed a fu unwaith yn arlunydd brwd ac yn weithgar yn y gymdeithas ond sydd bellach mewn ward arbenigol yn Aberystwyth. Siaradodd ei gŵr Hywel am y profiad o orfod “cysgu fel ci bwtshiar” â’i lygaid a’i glustiau’n hanner agored wrth i’w wraig grwydro ganol nos, a Gwern y mab yn teimlo’r euogrwydd uffernol o gyfaddef nad ei fam gyfarwydd sydd yn y ’sbyty mwyach. Dyma Beti ar ei gorau, yn llwyddo i gael pobl i agor eu calonnau fel ar ei rhaglen radio wythnosol. Roedd hi’n barod i farnu hefyd - y ffaith mai dim ond £50 miliwn sy’n cael ei wario ar ymchwil dementia o gymharu â £590 miliwn ar gyfer canser, a bod unedau gofal dwys preifat fel rhai’n Abertawe yn codi hyd at £2,200 yr wythnos i deuluoedd. Ond roedd yna ganmol a gobaith hefyd, yn enwedig o ymweld â chartrefi gofal sy’n fwy o aelwydydd hapus, lliwgar a bywiog yng Nglyn Menai, Bangor, a Bryn Blodau, Llan Ffestiniog. Llefydd sy’n gadael i bobl FYW yn ogystal â bod, yn lle eistedd a syllu’n fud i unlle drwy’r dydd mewn lolfa anghynnes.

Do, mi ddyfriodd fy llygaid wrth wylio hon, a meddwl am Nain Bryn Pydew a fu farw dros ddegawd yn ôl wedi colli ’nabod ar ei theulu. Diolch i Beti George a’i chyfranwyr am daclo’r tabŵ mor boenus o onest, a diolch i gwmni Fflic am raglen o sylwedd yng nghanol yr holl swnian am raglenni cylchgrawn a chwisiau rhad “newydd” y Sianel.

Diolch hefyd i Iolo Williams a chwmni Aden am un o’r cyfresi natur gorau ers tro byd. Daeth Antur y Gorllewin i ben yng Ngwlad yr Iâ wythnos diwethaf, gyda’r cyflwynydd megis hogyn bach ar ddiwrnod ’Dolig yn ebychu “waaaaaw!” o weld morfil asgellog glas a’r olygfa anhygoel ohono’n nofio mewn hollt rhwng platiau cyfandiroedd Ewrop ac America dan lyn Thingvellir. Waw! yn wir.