Tywyll heno

Cyn un o benodau Pobol y Cwm wythnos diwethaf, cafwyd rhybudd gan Gyhoeddwr Dwys-ddifrifol S4C y gall rhai golygfeydd beri gofid i ni wylwyr sensitif. Dylai fod wedi cyhoeddi hynny awr ynghynt. Achos am saith o’r gloch noson Gŵyl Ddewi, dylwn i a’r genedl fod wedi’n paratoi am smonach o raglen dabloid newydd o dre’r Sosban.

Rŵan, dydw i ddim yn frwd dros raglenni cylchgrawn ysgafn ar y gorau. Mae’n siŵr fod Lorraine, Alex Jones a Siân yn iawn yn eu lle, a hynny i’r henoed rhwng Antiques Road Trip in the Attic a Hel Straeon ugain oed. Ac nid fi ydi’r person gorau i siarad o blaid Wedi 7, gan fy mod i fel arfer yn rhy brysur yn tuchan yn y gampfa yr adeg honno o’r nos. Ond ro’n i’n nabod cryn dipyn o ffans y rhaglen, ac mae’n debyg bod gan awduron a gweisg Cymraeg gryn dipyn o waith diolch iddi am hybu gwerthiant llyfrau dros y blynyddoedd. Yna, fe bechodd S4C yn uffernol trwy gael gwared ar rai o’r cyflwynwyr mwyaf poblogaidd a graenus eu Cymraeg wrth ddirwyn contract Tinopolis i ben - cyn dyfarnu contract newydd i, ym, Tinopolis. Roedd datganiad i’r wasg gan y Sianel yn addo “wynebau newydd… yn dod â ffresni a chyffro i’r sgrin”. Os felly, roedd atgyfodi’r hen enw Heno (1990-2001) mor ffres â’r ’sanau yng nghrombil fy masged ddillad. A phob parch i Rhodri Ogwen, dydy o ddim yn wyneb mor newydd â hynny ar ôl ymddangos yn Pryd o Sêr dros y ’Dolig wedi pwl o alltudiaeth gyda sianeli Sky Sports ac Al Jazeera.

Dyma’r dyn ei hun felly, ac Emma Walford fwyfwy hyderus, yn gwenu fel giatiau o’u soffa a stiwdio lelog - gyda’r ffenestri cefn wedi’u gorchuddio rhag ofn i’r gwyliwr gamgymryd y sioe fel Wedi 7 â chôt o baent newydd. Roedd yna orbwyslais ar joio, mwynhau, trydaru ac anfon jôcs, ac adolygu straeon newyddion mawr y dydd fel botocs (D)Imogen Giggs-Thomas, i gymeradwyaeth, chwibanu a chwerthin y criw cynhyrchu a la One Show. Ond lle mae cyfres Alex Ni yn cynnwys pytiau o straeon gan ohebwyr o bob cwr o Brydain, dim ond dathliadau pen-blwydd Ysgol Dewi Sant Llanelli yn 65 oed a gafwyd ar Heno a chyfarchion Skype gan Daniel Glyn, Aled Hall a Caryl. Beth tybed yw teimladau Gerallt Pennant a Meinir Gwilym o gael eu disodli gan gamera’r we? Enw newydd ond hen fformat oedd Prynhawn Da hefyd, sy’n siwr o blesio’r hen bennau gwynion gyda chymysgedd o gynghorion ffasiwn, coginio a garddio. Camarweiniol braidd ydi’i hyrwyddo fel rhaglen gylchgrawn dwy awr, gan fod awr yn y canol wedi’i neilltuo i hen raglenni gan Dudley, Iolo Williams a Bethan Gwanas, cyn dychwelyd yn ôl at soffa Angharad Mair a Siân Thomas.

“Calon Cenedl” ydi mantra mawr y Sianel ar hyn o bryd. Doedd gen i mo’r galon i wylio Pen8nos wedi hanner awr rad-a-chas yng nghwmni Rhodri ag Emma.

Does ryfedd ’mod i’n nerfus cyn Noson yng Nghwmni Caryl. Enw arall o’r gorffennol yn dwyn i gof cyfresi adloniant HTV ers talwm, ac ymgais arall y Sianel i apelio at yr hen Gymry hiraethus wrth atgyfodi Siôn a Siân a Jacpot. Diolch i’r drefn, cefais fodd i fyw gyda chymeriadau newydd yn fwy na’r hen Glenys a Rhisiart a’r holl ganu hyd yn oed - yn enwedig y chwaraewr rygbi cenedlaethol yn rhaffu ystrydebau fel “buddugolieth yw buddugolieth” mewn cyfweliadau â Dot Davies, a’r dysgwyr Cymraeg hipïaidd Val a JoJo Eastman yn dangos partneriaeth newydd wych rhwng Caryl ag Iwan John. Os gawn ni fwy yn y dyfodol, plîs recordiwch mewn stiwdio lai er mwyn creu awyrgylch fwy agos-atoch gyda’r gynulleidfa.