Cwmderi Newydd

Un o lwyddiannau Gwaith/Cartref yw’r ffaith ei bod wedi’i ffilmio ar leoliad go iawn yn hen ysgol ramadeg y Barri yn hytrach na dosbarthiadau g’neud mewn stiwdio, gan ychwanegu at ymdeimlad realistig y cyfan. Mae Rownd a Rownd wedi hen ymgartrefu ym Mhorthaethwy, gyda setiau fel y caffi, y siop bapur newydd a’r siop trin gwallt yn edrych allan ar brysurdeb Lôn Cilbedlam. Ac mae cyfres fwyaf hirhoedlog y Gymraeg yn edrych yn well nag erioed o’r blaen, ar ôl codi pac o Landaf i Fae Caerdydd.
Ydy, mae Pobol y Cwm wedi cael ailwampiad go iawn – byddai’n rhai dweud gan griw Extreme Makover: Home Edition a ddarlledir rownd y rîl ar sianel Home ‘Sky’ – ers symud i Borth y Rhath, pentref drama newydd y BBC sy’n debyg i legoland gerllaw’r Eglwys Norwyaidd a’r Senedd. Mae un neu ddau wedi beirniadu’r cynllunwyr am greu gormod o newidiadau dramatig i Stryd Fawr Cwmderi, sy’n golygu bod Capel Bethania a meddygfa wedi glanio yno mwya’r sydyn. Mae eraill wedi beirniadu’r setiau dan do am fod yn rhy dywyll – rhywbeth i’w wneud efo’r gwaith ffilmio manylder uwch (HD) meddan nhw – a bod gormod ohonynt wedi’u haddurno â phapur wal Laurence Llewelyn-Bowenaidd. Does ryfedd fod Sioned, Anti Marian a Ffion wedi colli arnynt yn ddiweddar gyda’u hystafelloedd byw seicadelig.

Ond fe ddown i arfer dros amser, ac mae’r cilfachau a’r corneli bach newydd yn cynnig mwy o bosibiliadau i’r criw ffilmio ac amrywiaeth i’r gwylwyr. A chyda mwy o setiau parhaol, mae’n llawer mwy credadwy gweld y cymeriadau’n trafod eu pechodau mawr ym mhreifatrwydd eu pedwar wal yn hytrach nag ar soffa’r Deri. Mantais arall yw’r ffaith fod y cymeriadau yn gallu camu’n syth o’r stryd i’r siop a’r caffi, a’n bod ni’n gweld ceir a phobl yn pasio drwy’r ffenestri. A phan fydd angen triniaeth ’sbytu ar un o’r trigolion, fel Cadno feichiog yn ddiweddar, yna picied drws nesaf i set fawr Casualty amdani. Er gwaetha’r protestio a’r pwdu mawr gan yr actorion o orfod gadael stiwdio Bryste wrth ail-leoli dinas ddychmygol Holby yng Nghaerdydd, mae’r gyfres doctors-a-nyrsys wedi hen setlo yma bellach. Rhai’n well na’i gilydd mae’n debyg, gyda’r si bod ambell actor primadonnaidd (galwn ni fo’n Mr Ffrengig) yn swnian o glywed staff y Bîb yn siarad Cymraeg yn ffreutur Porth y Rhath. Croeso i Gymru, dahhling!

Yn ogystal â’r bytholwyrdd Dr Who, un o gymdogion eraill y Cwm yw Upstairs Downstairs, drama gyfnod am fyddigions a morwynion 165 Eaton Place. Mae’n wledd i’r llygaid, a rhan o’r apêl ydi chwarae gêm o ‘nabod y lleoliad’. Eisoes, cefais gip ar bier Penarth, adeiladau gwyn ysblennydd Parc Cathays yn efelychu Whitehall Llundain, a baneri’r Natsïaid yn hongian ar yr Amgueddfa Genedlaethol fel Berlin ddiwedd y 1930au. Buasai cyfres Gymraeg o’r fath yn llwyddiant ysgubol i S4C (cofio Y Palmant Aur?), ond nid felly i’r BBC mae’n ymddangos. Darlledwyd y bennod olaf nos Sul diwethaf, gyda rhai’n amau a welwn ni gyfres arall gan fod nifer y gwylwyr wedi gostwng i 4.45 miliwn o gymharu â chyfartaledd o 8.7 miliwn a feddwodd ar Downton Abbey, cyfres “nobs and slobs” ITV, chwadal Mark Lawson yn y Guardian. Os felly, mi fydd yna glamp o set ddeulawr yn wag ar gyfer tenant newydd. Plasty bach i Garry Monk, gangstyr Cwmderi efallai?