O Blackpool i'r Barri

Blackpool. Tref y tŵr a’r gwyliau kiss me quick, y tîm pêl-droed oren llachar, a’r man lle cafodd cymar treisgar Rita Coronation Street ei haeddiant dan un o’r tramiau. Ond yn fwy na dim, meca i gannoedd os nad miloedd o Gymry sy’n heidio i weld deuawd enwocaf y Fam Ynys (na, nid Cêt a Wil) mewn gwesty teuluol. Ac mae’n siŵr y bydd y selogion yn gaeth i gyfres pry-ar-y-wal newydd Tony ac Aloma: I’r Gresham bob nos Sadwrn. O leiaf maen nhw’n sêr cabare go iawn yn hytrach na’r desberados lu ar sioe Simon Cowell yr un noson.

Roedd sbarc a sioncrwydd y teitl agoriadol cartwnaidd 60aidd ei naws yn atgoffa rhywun o glasuron comedi America fel Betwitched ac I Dream of Jeannie. Y realiti oedd hydref gwlyb mewn tref glan môr dosbarth gweithiol, a’r straen o redeg gwesty a lansio llyfr hunangofiant gerbron y genedl yn fyw ar Wedi 7. Roedd Aloma a’i gŵr Ray (nid Tony fel yr oeddwn i, a sawl un arall, wedi’i dybio erioed) yn ei chanol hi, yn ceisio dewis a dethol lluniau ar gyfer y llyfr hollbwysig cyn rhuthro i’r Gresham erbyn hanner nos i ganu’r hen glasuron i griw o Fonwysiaid meddw “hôm ffrom hôm”. Roedd Tony, ar y llaw arall, fel y barmon ystrydebol bob amser â gwydryn yn ei law wrth gymysgu â’r gwesteion. Ac roedd ambell gymeriad yn eu plith, fel Beti a enillodd jacpot yn y bingo cyn hawlio’r meic i wylofain canu rhyw dôn Saesneg - clasur comedi fel rhan o sgript Peter Kay. Y cwestiwn ar feddyliau pawb, a thema’r rhaglen gyntaf i raddau, oedd a fyddai Aloma’n ddigon da i ganu o gwbl oherwydd pyliau o flinder llethol yn sgil yr aflwydd M.E. Ond fel pob perfformiwr gwerth ei halen, dyma daro’r minlliw, sefyll gyda Tony a gwenu’n siriol wrth ding-dongio ‘Clychau Nadolig’ am y tro cyntaf ers ugain mlynedd. Mi fydd y ffyddloniaid mewn perlewyg pan fydd y boiband Cymraeg gwreiddiol o Lanbêr yn ymddangos yn un o benodau’r dyfodol…

Un arall o fyd showbiz sydd bellach wedi ymgartrefu ger glan môr y Barri ydi Connie Fisher, testun Gwreiddiau nos Sul. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn hen os nad or-gyfarwydd â’i llwyddiant eisteddfodol ac ar sioe dalent Lloyd-Webber, ond yr elfen fwyaf diddorol - a dirdynnol - oedd hanes ei magwraeth gynnar yn Lisburn, Gogledd Iwerddon. Roedd yn siwrnai boenus iawn, heb os, yn enwedig wrth iddi fynd i amlosgfa’r dref i weld enw’i gefell Justin a fu farw’n fuan wedi’i eni, yn y llyfr cofion. Rhifyn da o gyfres anarferol o fer.