Ochor Treforys o'r dre

Pan welais ddatganiad i’r wasg am gyfres newydd o’r enw Y Glas, mi feddyliais “grêt, ma’ S4C wedi penderfynu atgyfodi rhywbeth gwerth chweil o’r diwedd”. Ond nid cyfres ddrama o’r 90au am griw o heddweision Caerfyrddin oedd hon. Efallai does dim galw am operâu sebon y sarjants mwyach, o gofio bod The Bill wedi mynd i’w bedd. Yn hytrach, cyfres ddogfen newydd, dair rhan, am blismyn Abertawe a’r cylch ydi hi - sy’n dipyn difyrrach na hanes criw’r ambiwlans awyr a ddarlledwyd o’i blaen dan frand 999 bob nos Lun am naw. Ond peidiwch â disgwyl “high speed car chases” na golygfeydd dramatig o “arestio pobl bob dydd”, fel y rhybuddiodd PC Gavin Williams o Bontardawe. Beth gawsom oedd golygfeydd o’r heddlu’n ymateb i ffrae deuluol, stelcwyr facebook a ffonau symudol, a hen wreigan â dementia oedd wedi crwydro 25 milltir o’i chartref. Un o’r doniolaf oedd clywed PC Aled Pritchard yn ailadrodd “stop shouting” yn robotaidd o rwystredig wrth geisio dal pen rheswm efo gwraig feddw orffwyll a oedd wedi meddiannu tŷ ei chyn-gariad. Yn ôl y cyfweliadau â chyfranwyr y gyfres - rhai o’r 579 o heddweision sy’n ceisio cadw’r heddwch yn ail ddinas fwyaf Cymru - daeth i’r amlwg fod angen amynedd Job a synnwyr digrifwch yn ogystal â’r streips hollbwysig ar gyfer y swydd hon. Heb anghofio haearn Sbaen o stumog neu annwyd trwm hefyd er mwyn osgoi arogli rhai o gartrefi mochaidd y dinasyddion, gyda straeon am gathod marw y tu ôl i’r soffa a phobl yn cadw ieir neu ddafad yn y lolfa. Welwch chi mo hynna ar Crimewatch.

I gloi’r rhaglen, clywsom am yr her newydd a diddorol o gadw trefn ar filoedd o ffans pêl-droed y Premiership sy’n heidio i Stadiwm Liberty o bob cwr o Brydain - gan gynnwys tad a mab o Chelsea a gafodd ormod o shandi i’r stiwardiaid eu caniatáu i’r maes. Wedi cryn refru, rhegi a cholli’u seddi, cafodd y mab gerdyn coch i gelloedd yr heddlu am noson. Ond unwaith eto, roedd yna hwyl i’w gael, gyda golygfa o blisman Cymraeg yn dysgu hen Gocni i ddweud “Abertawe i ennill”. Diolch i’r cynhyrchwyr am ganolbwyntio ar heddlu’r rhan hon o’r wlad yn hytrach na chwarae’n saff a dilyn Heddlu’r Gogledd yng nghadarnleoedd yr iaith. Braf clywed Cymraeg llefydd mor amrywiol â Phort Talbot, Gorseinon a Phontarddulais ar y bocs am unwaith.

Cais caredig i benaethiaid Radio Cymru tra ’mod i wrthi. Pam o pam na chaiff pawb glywed darllediad byw o gemau’r Elyrch? Does dim byd gwaeth na gwrando ar Camp Lawn neu raglen nosweithiol Eleri Siôn (ac eithrio noson Pen8nos) yn cynnig rhagflas o’r gêm arfaethedig cyn gadael i wrandawyr y De-orllewin fwynhau sylwebaeth lawn tra bo’r gweddill ohonom yn gorfod dilyn Llanbedinodyn FC neu glywed ‘Harbwr Diogel’ am y degfed tro’r diwrnod hwnnw. Beth am glywed y gêm ar wefan Radio Cymru, fel mae Magi Dodd yn cynnig darllediad amgen Dodd Com i raglen Lisa Gwilym ar C2? Dwi’n rhyw amau y byddai Cymru gyfan yn cael darllediad llawn o gêm yr Adar Gleision os byddan nhw’n hedfan i uwchgynghrair Lloegr.